Gohirio streic gweithwyr bysiau Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
bws

Mae streic gan weithwyr bysiau Caerdydd wedi ei ohirio yn dilyn cynnig arall gan y cyflogwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran undeb Unite: "Yn dilyn trafodaethau gyda Chwmni Bysiau Caerdydd mae yna gynnig gwell wedi ei wneud i'n haelodau.

"Oherwydd hyn byddwn yn rhoi'r gorau i weithredu'n ddiwydiannol dydd Sul, ac yn ymgynghori gyda'n haelodau."

Yn ddiweddar mae'r undeb wedi cynnal cyfres o streiciau oherwydd anghydfod ynglŷn â chynnig cyflog.

Roedd yr undeb - sydd â 540 o aelodau yn y cwmni - wedi gwrthod codiad cyflog o 5% erbyn 2016.