Cyfarfod i drafod diffyg bysus

  • Cyhoeddwyd
LlanfrothenFfynhonnell y llun, Google

Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal yn Llanfrothen yng Ngwynedd nos Wener i drafod diffyg bysus cyhoeddus yn y pentref ers dechrau mis Medi.

Cwmni masnachol Express Motors oedd yn gyfrifol am ddarparu bws bob dwy awr o Lanfrothen i Borthmadog ac yn ôl. Ond dim ond un gwasanaeth sydd yn weddill erbyn hyn.

Dywedodd Cwmni Express Motors fod yr arian a gafwyd trwy'r Cynulliad tuag at bas bysus wedi ei leihau ac nad oedd modd cadw'r gwasanaeth.

Cafodd defnyddwyr rheolaidd y gwasanaeth wybod am y toriadau bum niwrnod ymlaen llaw yn unig meddai ymgyrchwyr lleol, ac mae nifer yn y pentref yn pryderu na fydd modd cadw at apwyntiadau i'r feddygfa ym Mhenrhyndeudraeth yn gynnar yn y bore ac yn hwyr yn y prynhawn heb wasanaeth bws cynhwysfawr.

'Teimladau cryf'

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Marian Roberts, un o drigolion y pentref: "Fe ddaeth na dros 50 o bobl i'r cyfarfod heno, ac roedd teimladau'r bobl oedd yno'n gryf ofnadwy. Y trafferth ydi nad ydi'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli mai bysus masnachol sy'n rhedeg yng Ngwynedd.

"Roedd pawb yn disgwyl clywed atebion ac wedi eu siomi ychydig na chawson nhw atebion, ond roedd yn afrealistig i gael atebion heno. Fe gafwyd llawer o syniadau yn cael eu cynnig, gyda rhai pethau positif yn cael eu cynnig. Fe fydd staff Cyngor Gwynedd yn edrych ar y posibilrwydd o ymestyn y gwasanaeth bws ar alw.

"Mae gan rhai ardaloedd fws cymunedol sydd yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr, ond peth tymor hir fyddai hynny. Mae'r swyddogion yn mynd i edrych i mewn i bethau ac fe fydd swyddogion y cyngor cymuned yn mynd i alw cyfarfod arall hefo pobl o Benrhyndeudraeth yn y dyfodol gan fod hyn yn effeithio arnyn nhw hefyd."

'Gwasanaeth masnachol'

Cyn y cyfarfod, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Tan yn ddiweddar, roedd cwmni Express Motors yn rhedeg gwasanaeth masnachol rhwng Llanfrothen a Phorthmadog. Gan fod y gwasanaeth yma yn fasnachol llwyr, nid oedd gan y Cyngor unrhyw awdurdod i ymyrryd pan benderfynodd y cwmni i newid y gwasanaethau masnachol.

"Mae Cyngor Gwynedd yn parhau i ddarparu un siwrne cyhoeddus o Lanfrothen i Benrhyndeudraeth dydd Llun i Sadwrn, ac rydym hefyd yn darparu gwasanaeth tacsi ar-alw rhwng Llanfrothen a Phorthmadog bedwar diwrnod yr wythnos, sy'n rhoi cyfle i drigolion lleol drefnu o flaen llaw pan maent yn awyddus i deithio."