Galw am ddiogelu addysg gydol oes
- Cyhoeddwyd

Gallai Cymru dalu "pris uchel" am doriadau i addysg gydol oes yn ôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Mae Sarah Rochira wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau "tecwch ariannu" rhwng dysgwyr hŷn a myfyrwyr ifanc.
Mae arian y llywodraeth i addysg bellach wedi gostwng 6% eleni.
Ond mae'r angen i ganolbwyntio ar ariannu addysg i fyfyrwyr ifanc wedi golygu fod yr arian sydd ar ôl i addysg gydol oes wedi ei hanneru, yn ôl Colegau Cymru.
Dywedodd y Dirpwry Weinidog dros Sgiliau fod y llywodraeth wedi gorfod gwneud "penderfyniadau anodd" ond mai pobl ifanc "yw'r dyfodol".
'Pryderon'
Wrth siarad ar raglen BBC Sunday Politics Wales, dywedodd Ms Rochira fod ganddi "bryderon gwirioneddol y byddwn yn y blynyddoedd i ddod yn talu pris uchel am fethu a pharhau gyda buddsoddiad sydd ei angen mewn addysg a chyfleoedd am addysg gydol oes."
"Rwy'n credu bod angen gweld cydnabyddiaeth llawer ehangach ar hyd portfolios y llywodraeth am yr angen i gadw'n pobl hŷn yn y gweithle a dod a nhw'n ôl i'r gweithle hefyd", meddai.
Dywedodd Dirprwy Weinidog dros Sgiliau Llywodraeth Cymru, Julie James wrth y rhaglen: "Mae penderfyniadau anodd wedi gorfod cael eu gwneud ac rwy'n cytuno eu bod wedi bod yn benderfyniadau ofnadwy ond yn y pen draw y bobl ifanc yw'r dyfodol ac fe wyddon ni ei fod yn creithio person ifanc am amser maith o fod allan o'r gweithle.
"Rwyf yn gweithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn ar ddarn o waith ymchwil i weld beth allwn ei gynnig i bobl sydd allan o'r farchnad waith yn eu blynyddoedd hŷn", meddai.
'Penderfyniadau anodd'
Dywedodd Iestyn Davies, prif weithredwr Colegau Cymru: "Yn y pen draw mae gan Lywodraeth Cymru benderfyniadau anodd i'w wneud. Rydym yn galw ar y Cynulliad, ar bob plaid i adnewyddu eu hymrwymiad i addysg gydol oes fel rhan o DNA Cymru wrth i ni wynebu penderfyniadau anodd i'r dyfodol."
Mae modd gweld Sunday Politics Wales ar BBC One Wales am 14:15 ar ddydd Sul 11 Hydref.