Pibell Nwy: Ail-agor ffyrdd

  • Cyhoeddwyd
gwestyFfynhonnell y llun, Google

Mae ffyrdd a gafodd eu cau tra bod peirianwyr yn trwsio pibell nwy yn Nhorfaen wedi ailagor nos Sadwrn.

Fe ddaru contractwyr dorri'r bibell yn ddamweiniol ddydd Iau, gan arwain at gau gwesty'r Premier Inn gerllaw a thafarn yr Ashbridge Inn yng Nghwmbrân.

Mae'r nwy oedd yn gollwng, bellach wedi cael ei atal ac mae'r dafarn a'r gwesty hefyd wedi ail-agor.

Dywedodd llefarydd ar ran y peirianwyr eu bod wedi gweithio drwy'r nos.

Ni chafodd cyflenwadau nwy eu heffeithio gan y digwyddiad.