Mansfield 3 - 0 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Fe sicrhaodd tair gôl yn yr ail hanner, eu trydedd fuddugoliaeth yn olynol i Mansfield yn yr Ail Adran yn erbyn Casnewydd.
Fe roddodd cic foli gan Craig Westcarr y tîm cartref ar y blaen, bum munud i mewn i'r ail hanner.
Fe lwyddodd Mansfield i ddyblu'r fantais wedi ergyd wych gan Malvind Benning, cyn i'r eilydd, Adi Yussuf selio buddugoliaeth y Ceirw yn stadiwm Field Mill.
Dyma'r tro cyntaf i'r Alltudion golli o dan ofal John Sheridan.