Dover 2 - 1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Mae gôl gyntaf Toby Ajala dros Dover Athletic wedi sicrhau buddugoliaeth i'r tîm o dde orllewin Lloegr dros Wrecsam.
Fe roddodd pedwaredd gôl o'r tymor gan Ricky Miller, Dover ar y blaen gyda pheniad wedi cic rydd gan Nicky Deverdics.
Fe lwyddodd Connor Jennings i unioni'r sgôr gyda chic o'r smotyn, ar ôl Richard Orlu droseddu yn y cwrt cosbi.
Ond fe darodd Ajala yn ôl, gan sicrhau buddugoliaeth i'r tîm cartref.