Awstralia yn trechu Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd
- Cyhoeddwyd

Awstralia 15-6 Cymru
Roedd amddiffyn ystyfnig Awstralia yn rhy gryf i Gymru wrth i'r crysau cochion orffen yn ail yng Ngrŵp A yng Nghwpan Rygbi'r Byd wedi'r gêm yn Twickenham.
Ni lwyddodd y Cymry i wneud y mwyaf o'u niferoedd wrth i Awstralia weld dau o'u chwaraewr yn cael cardiau melyn o fewn tri munud i'w gilydd yn yr ail hanner.
Y maswr Bernard Foley giciodd holl bwyntiau Awstralia, gyda throed Dan Biggar yn gyfrifol am chwe phwynt
Bydd Cymru nawr yn wynebu De Affrica yn rownd yr wyth olaf ddydd Sadwrn nesaf.
Er bod Cymru wedi colli yn erbyn Awstralia sawl gwaith yn y gorffennol, dyma o bosib un o'r gemau mwyaf rhwystredig i Warren Gatland eto.
Methodd Cymru a chymryd eu cyfle tua 20 munud i mewn i'r ail hanner, wrth i'r crysau cochion ymosod yn drwm ar 13 dyn Awstralia.
Awstraliau yn gryf o'r dechrau
Fe ddechreuodd Awstralia yn gryf o'r dechrau, wrth iddynt ddewis y sgarmes o'r gig gosb gyntaf o fewn hanner eu hunain. Fuodd bron iddynt dalu'n ddrud am hynny wrth i Gareth Davies redeg cryn bellter i lawr y cae.
Fe lwyddodd Biggar i drosi cic gosb, wedi pedwar munud, gan roi'r fantais gynnar i Gymru.
Roedd amddiffyn Awstralia yn gwbl gadarn, a Chymru yn methu torri drwy'r llinell amddiffynnol o gwbl.
Yn fuan iawn, fe ddechreuodd Foley ychwanegu pwyntiau i gorlan Awstralia, gyda sawl cic lwyddiannus rhwng y pyst.
Fe ddechreuodd yr ail hanner yn weddol ddifflach, ond fe ddaeth sawl trosedd gan Awstralia i sylw'r dyfarnwr Craig Joubert o Ffrainc.
Fe gafodd Will Genia ei yrru i'r gell cosb am 10 munud wedi iddo fethu a dychwelyd 10 medr wedi i'r dyfarnwr alw cic gosb i Gymru, ac yn fuan wedyn fe welodd Dean Mumm y cerdyn melyn wedi iddo droseddu yn y llinell.
Sawl ymdrech gan y Cymry
Er bod Awstralia 13 dyn i lawr, methodd Cymru a chroesi'r llinell, yn dilyn sawl ymdrech i ymosod.
Wedi i Awstralia amddiffyn yn gwbl gadarn am 10 munud, fe gymerodd y Wallabies eu cyfle, wrth i Foley drosi'r bumed gic gosb, gan gynyddu'r bwlch rhwng y ddau dîm gydag dim ond wyth munud i fynd.
Fe fydd Awstralia yn edrych ymlaen at herio'r Alban tra bod Cymru yn paratoi i wynebu'r Sprinbok yn y chwarteri.
Gareth Davies oedd seren y gêm, ond heb os, gêm a enillwyd gan amddiffyn Awstralia oedd hon.