Eli Walker ddim yn holliach i wynebu De Affrica
- Cyhoeddwyd

Mae asgellwr y Gweilch Eli Walker wedi cael ei alw i ymuno â charfan rygbi Cymru yn lle Liam Williams.
Ond ni fydd yn wynebu De Affrica yn Twickenham ddydd Sadwrn oherwydd anaf i linyn y gar.
Dywedodd hyfforddwr yr olwyr Rob Howley y byddai'n chwarae os yw Cymru mewn gêm gynderfynol.
Fe anafodd Williams ei droed yn y gêm yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.
Roedd Walker yng ngharfan wreiddiol Cymru o 31, ond collodd ei le gan ei fod ar y pryd wedi ei anafu.
Mae Walker, 23 oed, wedi ennill un cap i Gymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Iwerddon ym mis Awst 2015.