Rhybudd i drigolion wedi tân mawr yng Nghaerdydd
- Published
image copyrightGoogle
Mae diffoddwyr tân sydd wedi bod yn mynd i'r afael â thân mawr yng Nghaerdydd wedi rhybuddio trigolion cyfagos i gau eu ffenestri.
Mae tua 600 tunnell o sbwriel wedi bod yn llosgi ger safle Atlantic Recycling ar Heol Newton, yng Ngwynllŵg.
Fe ddechreuodd y tân am tua 08:30 fore Sul.
Roedd gan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru chwe pheiriant yn y digwyddiad.
Fe gafodd trigolion yn ardaloedd Tredelerch, Penylan, Llanedern a Thremorfa wedi cael eu heffeithio.