Cyn-bennaeth bwrdd iechyd wedi marw o ganser
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-bennaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, a symudodd i Loegr i gael triniaeth canser wedi marw.
Roedd Mary Burrows, yn brif weithredwr ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac fe symudodd o Fae Colwyn, Conwy, i Lundain, i gael ei thrin yn Ysbyty'r Royal Marsden.
Yn gynharach eleni, fe ddywedodd bod ei meddyg yng Nghymru wedi ei chynghori i symud i Loegr, oherwydd nad oedd y cyffur yr oedd ei angen ar gael yng Nghymru.
Roedd Mrs Burrows yn dioddef o ganser y fron.