Gorfod canslo marchnad fferm yn ystod gemau rygbi
- Cyhoeddwyd

Mae trefnwyr marchnad fferm ger Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd wedi "cynhyrfu" ar ôl iddynt gael cais i gau yn ystod dwy gêm Cwpan Rygbi'r Byd.
Dywedodd trefnwyr marchnad fferm Glan yr Afon, fod Cyngor Caerdydd wedi rhoi bythefnos o rybudd iddynt ar ôl "anawsterau trefniadau amlwg" godi yn ystod gêm Cymru yn erbyn Uruguay.
Mae'r Marchnadoedd a oedd wedi eu trefnu ar gyfer dyddiau Sul, 11 ac 18 Hydref wedi cael eu canslo.
Dywedodd cyngor Caerdydd, nad oeddynt yn gallu gwarantu diogelwch y cyhoedd gyda'r farchnad yn ei lle.
Dywedodd Gareth Simpson, Rheolwr Datblygu Cymdeithas Marchnad Gymunedol Glan yr Afon,: "Rydym yng nghysgod Stadiwm y Mileniwm, mae'n amlwg yn mynd i fod yn ddigwyddiadau mawr.
"Ond rydym yn naturiol wedi cynhyrfu.
"Gyda mwy o rybudd gallem fod wedi cynllunio'n well ac efallai wedi gallu mynd a'r farchnad ar daith."
"Mae effaith hyn wedi cael ei deimlo gan y cynhyrchwyr. Maent wedi colli pythefnos o waith mewn cyfnod allweddol o'r flwyddyn."
Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Caerdydd: "Ar 11 a 18 o Hydref, bydd tua 74,000 o gefnogwyr rygbi yn bresennol ar gyfer cwpan y byd.
"Fitzhamon Embankment fydd y prif lwybr ar gyfer bysiau i ganol y ddinas ar ddiwrnodau'r gemau hyn. Mae'r ffordd hefyd yn cael ei defnyddio fel maes parcio'r wasg..
"Mae diogelwch y cyhoedd yn allweddol i ni, ac ni fyddem yn gallu gwarantu hynny yn yr ardal hon gyda'r farchnad yno."
Dywedodd y cyngor eu bod wedi ymddiheuro i drefnwyr y farchnad, a byddant yn ad-dalu trwyddedau masnachu ar gyfer y dyddiadau dan sylw, maent hefyd wedi gwahodd masnachwyr i gynnal dwy farchnad ar ddyddiau Sadwrn unwaith y bydd y twrnamaint wedi dod i ben.