Ceidwadwyr eisiau cael gwared a'r grant ffioedd dysgu

  • Cyhoeddwyd
andrew rt

"Byddai'r Ceidwadwyr yn cael gwared a'r grant sy'n talu mwyafrif o ffioedd dysgu myfyrwyr o Gymru petai nhw mewn grym ar ôl etholiadau fis Mai nesaf." Dyna mae arweinydd y blaid wedi dweud wrth raglen BBC Cymru, The Sunday Politics.

Yn ôl Andrew R T Davies tydi'r grant ddim yn fforddiadwy a dylid gwario'r arian ar y gwasanaeth iechyd.

Dim ond y £3,500 cyntaf o'u ffioedd dysgu sydd yn rhaid i fyfyrwyr Cymru ei dalu, gyda'r llywodraeth yn talu'r gweddill -- lle bynnag y maen nhw yn astudio ym Mhrydain - sy'n costio tua £5,500 y flwyddyn i'r trethdalwyr yng Nghymru.

Yn ôl Andrew R T Davies mae'r cynllun wedi costio £3.6bn yn ystod cyfnod y cynulliad presennol.

Dywedodd y dylai'r arian yma gael ei wario ar feysydd eraill fel y gwasanaeth iechyd a cholegau chweched dosbarth.

Mae Llywodraeth Cymru wastad wedi mynnu bod y grant ffioedd dysgu wedi diogelu myfyrwyr Cymru ar ôl i Lywodraeth Prydain godi ffioedd dysgu yn Lloegr.

Mae cynlluniau ariannu prifysgolion yng Nghymru, gan gynnwys y Grant Ffioedd Dysgu, yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru, ond nid oes disgwyl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi tan ar ôl etholiad y cynulliad y flwyddyn nesaf.