Liam Williams allan o Gwpan Rygbi'r Byd
- Cyhoeddwyd

Mae'r cefnwr Liam Williams wedi cael ei ddiystyru ar gyfer gweddill cystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd, oherwydd anaf i'w droed.
Gadawodd asgellwr 24 oed y Scarlets y cau nos Sadwrn ynghyd a chanolwr yr Harlequins, Jamie Roberts cyn i'r gêm yn erbyn Awstralia ddod i ben.
Fe gafodd Roberts, 28 oed, ergyd i'w ben, cyn ei orfodi oddi ar y cae, ond mae disgwyl iddo fod yn holliach ar gyfer rownd yr wyth ola'. Ond ni fydd Williams yn chwarae unrhyw ran bellach yn y twrnamaint.
"Mae hon yn ergyd fawr," meddai hyfforddwr cicio Cymru, Neil Jenkins.
"Mae Liam wedi bod yn chwaraewr eithriadol i ni ac mae gwneud yn eithriadol o dda i ddod yn ôl wedi ei anaf yn yr haf.
"Mae wedi bod yn chwarae yn rhagorol, ac fe chwaraeodd yn dda eto ddoe, er gwaethaf ei anaf.
"Mae'n golled enfawr, ond rydym wedi cael dipyn o ergydion yn ystod y bencampwriaeth, ac mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen â'r gwaith sydd o'n blaen."
Nid yw Cymru, sy'n wynebu De Affrica yn y rownd nesa' yn Twickenham ddydd Sadwrn, wedi galw unrhyw un i gymryd lle Williams eto.