Coleman yn barod am gytundeb newydd

  • Cyhoeddwyd
CCFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi dweud ei fod yn barod i drafod cytundeb newydd, wedi i Gymru sicrhau lle yn rowndiau terfynol Euro 2016.

Mae cytundeb presenol Coleman yn parhau tan yr haf nesaf ond mae wedi gwrthod trafod estyniad i'r cytundeb hwnnw tra roedd yn arwain yr ymgyrch i gyrraedd y rowndiau terfynol hynny.

Mae'n debyg ei fod yn credu mai mater bach yw sicrhau cytundeb i ymestyn ei gyfnod fel rheolwr and mae am sicrhau fod y "strwythur" cywir yn ei le er mwyn sicrhau llwyddiant pellach.

"Gobeithio y gallwn gytuno ar hynny", dywedodd Coleman wrth y BBC.

"Ac ni fydd hyn am fy nghytundeb, fe fydd am y strwythur a sut y gallwn symud ymlaen.

"Mae'n rhaid i ni barhau i wthio'r bechgyn hyn a dyna'r unig ffordd. Nid yw hyn yn amser i orffwyso nawr ein bod wedi cyrraedd Ffrainc.

"Mae'n rhaid i ni feddwl am sut yr ydym yn ailadrodd yr ymgyrch yma wedi i ni fod yn Ffrainc. Mae'n rhaid i mi gyrraedd Cwpan y Byd (yn 2018).

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Trawsnewid

Mae Chris Coleman wedi trawsnewid llwyddiant carfan Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac er mai colli oedd hanes y tîm o 2-0 yn erbyn Bosnia-Herzegovina ddydd Sadwrn, roedd y gwaith caled wedi ei wneud cyn hynny, ac fe wnaeth buddugoliaeth Cyprus yn erbyn Israel sicrhau bod Cymru yn mynd i Ffrainc.

Cyn y gêm roedd Coleman wedi datgelu ei fod wedi ystyried rhoi gorau i'r swydd wedi i Gymru gael crasfa yn erbyn Serbia 6-1 ychydig dros dair blynedd yn ôl.

Nid oedd yn ddewis poblogaidd gan bawb pan gafodd ei benodi yn 2012 yn dilyn marwolaeth Gary Speed.

Yn dilyn dechrau sigledig roedd na gwestiynnau am ddyfodol Coleman flwyddyn a hanner ar ôl iddo afael yn yr awennau, ond fe ddechreuodd y canlyniadau wella ac mae nawr wedi cael ei ganmol am ei waith cynllunio manwl cyn pob gêm.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Un o ddyddiau tywyll Cymru - Paul Bodin yn methu cic o'r smotyn yn erbyn Romania yn 1993

Ffrainc

Fe fydd nawr yn canolbwyntio ar rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc yn yr haf - pan fydd 24 o dimau gorau Ewrop yn wynebu ei gilydd. Mae Coleman wedi galw ar ei chwaraewyr i adeiladu ar y llwyddiant diweddar y mae'r garfan wedi ei mwynhau.

"Wnai fyth anghofio'r teimlad o eistedd yn yr ystafell newid pan wnaethon ni golli yn erbyn Romania yn 1993", meddai. Roedd yn rhaid i Gymru guro'r gêm er mwyn sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 1994 - ond colli oedd hanes Cymru 2-1.

"Rwy'n cofio'r golwg ar wyneb Terry Yorath, ein rheolwr. Roedd Terry'n ddyn hynod o ddewr achos roedd wedi cael y drychineb o golli ei fab Daniel ac fe wnaeth gario 'mlaen gyda'r gwaith.

"Fe wnaeth ein harwain yn wych ac fe wnaethon ni golli i dîm gwell yn erbyn Romania ac fe wnaethon ni golli allan. Ac yna o dan Mark Hughes fel rheolwr, roeddwn i wedi fy anafu felly fe wnes i fethu'r rhan fwyaf o'r ymgyrch, fe wnaethon ni gyrraedd y gemau ail-gyfle a methu eto.

"Dydych chi byth yn colli'r teimlad yna o siomedigaeth. Felly mae cael y cyfle i wneud yn iawn am hynny...ac nid yw am fod y cyntaf i wneud hynny - mae o am gael y cyfle i gystadlu ar y llwyfan mawr yn erbyn y timau gorau; ein tîm ni'n profi ei hun yn erbyn y chwaraewyr gorau," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images