Cyhuddo myfyriwr o dreisio
- Cyhoeddwyd
Mae myfyriwr wedi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd wedi ei gyhuddo o dreisio menyw 19 oed yn y brifddinas.
Mewn gwrandawiad byr fore dydd Llun, fe siaradodd Khalid Alamhadi i gadarnhau ei enw. Wnaeth e ddim cyflwyno plê.
Bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa tan ei wrandawiad nesaf ym mis Chwefror 2016.