Cwest dyn fu farw dan ofal yr heddlu
- Cyhoeddwyd

Mae cwest i farwolaeth cyn-filwr o Fwcle fu farw pan oedd dan ofal yr heddlu wedi dechrau yn Abergele ddydd Llun.
Bu farw Morgan Owen, 24 oed, ym mis Rhagfyr 2011 ar ôl cael ei wenwyno gan gocên yn ôl patholegydd.
Dywedodd y dirprwy grwner dros ogledd ddwyrain Cymru a'r canolbarth Nicola Jones y bydd y gwrandawiad yn para am 10 niwrnod ac yn trafod sut y mae Heddlu Gogledd Cymru'n delio gydag unigolion sydd gyda phroblemau iechyd meddwl, a sut y maen nhw'n delio gyda phobl mewn cyflwr o ddeliriwm o achos cocên.
Clywodd y rheithgor fod Morgan Owen wedi cwblhau rhan sylfaenol o'i hyfforddiant, ond fod ei gymeriad wedi newid ar ôl iddo glywed na fyddai'n gallu parhau yn y fyddin o achos anaf.
'Chwe heddwas'
Cafodd yr heddlu eu galw i nifer o ddigwyddiadau ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2011, cyn ei farwolaeth ar 5 Rhagfyr.
Dywedodd patholegydd y Swyddfa Gartref Dr Brian Rodgers wrth y rheithgor ei fod wedi clywed fod chwe heddwas wedi ceisio ei atal ar 3 Rhagfyr, a bod y gefynnau am ei freichiau wedi torri cyn i swyddogion ddefnyddio taser arno dair gwaith.
Esboniodd Dr Rodgers fod Mr Owen wedi cael ei ryddhau o'r ddalfa y diwrnod canlynol.
Deuddydd yn ddiweddarach cafodd yr heddlu eu galw i Fwcle ar ôl i dri chymydog geisio ei atal wedi iddo ddifrodi ceir wrth gerdded o gartref ei gariad i gartref ei fam.
Ar ôl i swyddogion gyrraedd, cafodd Mr Owen ei roi mewn gefynnau eto ond fe ddaeth yn amlwg yn fuan nad oedd ganddo bwls. Fe geisiodd yr heddlu gynnig cymorth meddygol i achub ei fywyd ond bu farw'n fuan wedyn.
'Nifer o anafiadau'
Dywedodd Dr Rodgers fod yr archwiliad post mortem wedi dangos fod nifer o anafiadau ar gorff Mr Owen, ond nad oedd ganddo anaf i'w ben ac nid oedd wedi mygu i farwolaeth. Ychwanegodd Dr Rodgers: "Roedd lefel y cocên yn ei gorff o fewn ffiniau bod yn wenwynig".
Rhoddodd reswm cychwynnol am y farwolaeth fel gwenwyno o achos cocên. Dywedodd hefyd bod awgrym yng nghanlyniadau'r post mortem fod Mr Owen wedi bod yn defnyddio crac cocên ond byddai arbenigwr ar wenwyno'n gallu dweud yn fwy sicr os mai dyna oedd yr achos.
Gan nodi ymddygiad Mr Owen yn y dyddiau cyn ei farwolaeth, disgrifiodd Dr Rodgers ymddygiad sydd yn gysylltiedig â deliriwm sy'n cael ei achosi gan gocên. Mae'r rhain yn cynnwys ymddygiad ymosodol, pryder, cynnydd mewn cryfder a phanig.
Mae disgwyl y bydd Dr Rodgers yn ateb cwestiynau gan deulu Morgan Owen ac mae gan Heddlu Gogledd Cymru gynrychiolaeth gyfreithiol yn y cwest hefyd.
Straeon perthnasol
- 6 Rhagfyr 2011