Dan y Wenallt: Enwebiad Oscar?
- Cyhoeddwyd
Fe allai ffilm yn yr iaith Gymraeg gael ei henwebu am wobr Oscar y flwyddyn nesaf yn dilyn penderfyniad pwysig.
Yr addasiad ffilm o'r ddrama Dan y Wenallt gan Dylan Thomas fydd cynnig y DU ar gyfer enwebiad yn y categori Ffilm Iaith Dramor Orau (ddim yn yr iaith Saesneg) yn seremoni'r Oscars.
Dan y Wenallt a gynhyrchwyd gan y cwmni teledu fFatti fFilms a'r cyfarwyddwr Kevin Allen yw cynnig BAFTA ar gyfer gwobr Academi America 2016.
Gyda Rhys Ifans a Charlotte Church ymysg y cast, bu'r ffilm Dan y Wenallt ar daith sinemâu a theatrau ledled Cymru fis Rhagfyr diwethaf, ac roedd y ffilm hefyd yn ganolbwynt dathliadau S4C i nodi canmlwyddiant geni'r bardd Dylan Thomas yn Nadolig 2014.
Fe fydd yr addasiad Saesneg, 'Under Milk Wood' ar daith sinemâu ar draws y DU o 30 Hydref i nodi diwedd dathliadau canmlwyddiant geni'r cawr llenyddol o Abertawe.
Yn bartneriaeth rhwng fFilms fFatti, Tinopolis, Ffilm Cymru Wales, Goldfinch Pictures ac S4C, cafodd y ffilm ei chynhyrchu gefn-wrth-gefn yn Gymraeg a Saesneg, ac ar gael un ai fel ffilmiau unigol neu gyda'i gilydd, gan yr asiant gwerthiannau rhyngwladol Metro.
Addasiad
Mae'r fersiwn Gymraeg o glasur Thomas wedi'i chyfieithu a'i haddasu gan y bardd a'r awdur T. James Jones.
Dywedodd cyfarwyddwr y ffilm, Kevin Allen: "Rwy' wrth fy modd i glywed mai Dan y Wenallt yw cynnig swyddogol y DU ar gyfer ffilm Oscar iaith dramor.
"Mae'n hwb aruthrol i'r addasiadau cefn-wrth-gefn Dan y Wenallt / Under Milk Wood, a hoffwn ddiolch i BAFTA am ein dewis ni."
Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C: "Rydym yn hynod falch am y cynnig hwn ac yn ddiolchgar iawn i BAFTA am ddangos ffydd yn y dehongliad beiddgar, ysbrydoledig o shwd glasur gwych.
"Drwy weithio'n agos gyda chwmnïau a sefydliadau sydd ar flaen y gad yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, rydym wedi gallu cynnig taith fythgofiadwy i fyd cyfoethog geiriol a delweddol Dylan Thomas.
"Trwy gyfrwng yr addasiad cyffrous hwn, mae'n un o ffigurau diwylliannol eiconig mwyaf y byd modern unwaith eto wedi helpu i roi sylw byd-eang i Gymru ar lwyfan rhyngwladol."
Mae dwy ffilm Gymraeg wedi cael eu henwebu am wobr Oscar yn y categori ffilm iaith dramor yn y gorffennol - 'Hedd Wyn' yn 1993 a 'Solomon a Gaenor' yn 1999.
Straeon perthnasol
- 22 Chwefror 2015