Euro 2016: Cymru'n barod i ddathlu wrth wynebu Andorra

  • Cyhoeddwyd
Tim CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Tipyn o gamp: Dathlu yn Bosnia

Bydd dathlu eto yn erbyn Andorra nos Fawrth ar ôl i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016 dros y penwythnos.

Wedi i dîm Chris Coleman ennill eu lle yn Ffrainc nos Sadwrn, fe fydd Stadiwm Dinas Caerdydd dan ei sang wrth i Gymru groesawu Andorra.

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi llongyfarch y tîm ar eu camp hanesyddol.

"Wedi blynyddoedd o dorcalon a bod yn agos iawn ati, mae wedi bod yn gyffrous iawn gwylio'r tîm yn gweithio'u ffordd trwy grŵp anodd ac ennill ei le yn awtomatig ym Mhencampwriaeth Ewrop ...," meddai.

'Penllanw'

"Dyma benllanw blynyddoedd o waith caled gan bawb sy'n rhan o bêl-droed yng Nghymru, ac mae angen rhoi canmoliaeth arbennig i Chris am y ffordd wych y mae wedi arwain y tîm ar ôl iddo ddechrau yn y swydd o dan amgylchiadau mor anodd.

"Mae'r chwaraewyr, y tîm rheoli, Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac heb anghofio'r deuddegfed dyn, cefnogwyr Cymru, wedi gwneud yr ymgyrch hon yn un o'r llwyddiannau mwyaf yn hanes chwaraeon Cymru.

"Bydd cystadleuaeth y flwyddyn nesaf yn adeg dyngedfennol i Gymru."

Colli 2-0 oedd hanes Cymru yn Bosnia-Herzegovina ond roedd buddugoliaeth Cyprus yn Israel yn golygu, gydag un gêm yn weddill, y bydd y crysau cochion yn gorffen o leiaf yn ail yng Ngrŵp B.

Dyma'r tro cyntaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol prif gystadleuaeth ers 1958.

Disgrifiad,

Cyfle i rai o gefnogwyr selog tim Cymru ddathlu a hel atgofion

Talcen caled

Er bod Andorra ar waelod y tabl, roedden nhw'n dalcen caled i dîm Chris Coleman yn y gêm oddi cartref 13 mis yn ôl.

Cic rydd hwyr Gareth Bale sicrhaodd dri phwynt i Gymru wrth i'r tîm gipio'r fuddugoliaeth yng ngêm agoriadol Grŵp B.

Mae disgwyl i ymosodwr Real Madrid, sydd wedi sgorio chwe gôl yn ymgyrch Euro 2016, ddechrau'r gêm ond mae'n bosib na fydd yn chwarae am 90 munud oherwydd anaf diweddar.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

'Anhygoel'

Yn ôl Is-Hyfforddwr Cymru, Osian Roberts, mae'r deuddydd diwethaf wedi bod yn "arbennig iawn".

Ychwanegodd: "Rydym wedi cyflawni rhywbeth anhygoel ac fe allwn ymfalchïo yn hynny.

"Mae'r chwaraewyr yn edrych ymlaen at y gêm yn erbyn Andorra ac yn edrych ymlaen at allu dathlu efo'r cefnogwyr."

Mae rheolwr Andorra, Koldo Alvarez, wedi cyfaddef na fydd hi'n hawdd i'w dîm ddifetha dathliadau Cymru.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai hynny'n bosib, dywedodd: "Rydym yn gobeithio ond mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol o bwy ydyn ni a phwy rydym yn ei wynebu - ac un gêm y mae Cymru wedi ei cholli yn y grŵp yma."

Bydd llif byw arbennig Cymru Fyw'n dechrau am 19:15 heno.