Damwain hofrennydd Afghanistan: Cymro wedi marw

Yr Isgapten Geraint Roberts
Image caption Yr Isgapten Geraint Roberts

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau bod un o'r ddau aelod o'r Awyrlu fu farw mewn damwain yn Afghanistan yn Gymro.

Bu farw'r Isgapten Geraint 'Roly' Roberts, gafodd ei fagu yn Y Rhyl, a'r Isgapten Alan Scott wedi i'w hofrennydd fod mewn damwain ddydd Sul, 11 Hydref.

Roedd y ddau'n aelodau o'r llu hofrenyddion Puma yng nghanolfan yr Awyrlu yn Benson, Sir Rhydychen.

Dywedodd y Grŵp-Gapten Simon Patterson, pennaeth RAF Benson: "Rydym yn galaru heddiw am golled dau o'n cydweithwyr mwyaf ymroddgar a galluog, a chyfeillion - fe wnaeth y ddau ddyn eithriadol greu argraff anferthol arnom.

"Bydd colled ar eu hôl ac rydym yn anfon ein cydymdeimlad o'r galon i deuluoedd y ddau.

"Fe wnes i gwblhau fy hyfforddiant Puma gyda Roly y llynedd ac wedi ei adnabod cyhyd a fy mod wedi bod yn hedfan hofrenyddion. Roedd yn ddyn y lluoedd i'r carn, ac yn crynhoi popeth y mae'r Awyrlu Brenhinol yn ei gynrychioli.

"Roedd yn fraint cael gwasanaethu a hedfan gydag e."

'Trasiedi'

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon: "Mae'r teyrngedau twymgalon sydd wedi eu rhoi i'r ddau yn dangos eu bod yn uchel eu parch ac yn aelodau proffesiynol o'r Awyrlu.

"Mae eu marwolaethau cynamserol yn drasiedi, ac mae fy nghydymdeimlad dwysaf gyda'u teuluoedd yn y cyfnod anodd yma."

Ymunodd Geraint Roberts, oedd yn 44 oed, gyda'r Awyrlu yn 1988. Roedd wedi gwasanaethu yn Bosnia, Ynysoedd y Falkland, Irac ac Afghanistan.

Mae'n gadael gweddw a dau o blant.