Tryweryn: Angen gofyn cwestiynau am ymateb y llywodraeth
- Cyhoeddwyd

Mae gwleidydd, mab y Gweinidog dros Faterion Cymreig lywiodd drwy'r Senedd y ddeddf arweiniodd at foddi cwm Tryweryn, wedi cyfaddef y dylid gofyn cwestiynau am y broses ar y pryd.
Cafodd Henry Brooke ei benodi'n Weinidog Materion Cymreig yn 1957 a chafodd ei fab, yr Arglwydd Peter Brooke, ei benodi'n Ysgrifennydd dros Ogledd Iwerddon yn 1989.
Bydd rhaglen ddogfen Tryweryn: 50 Years On yn cael ei darlledu 50 mlynedd ers agor cronfa Tryweryn yn swyddogol.
'Ailystyied'
Ar y rhaglen mae'n dweud: "Wrth gwrs, rwy'n gallu gweld bod y rhai fyddai'n elwa o Fesur Tryweryn yn dod o'r tu allan i Gymru ond roedd yn glir hefyd bod angen datrys problem cyflenwad dŵr i Lerpwl.
"Yr hyn allai, y dylai gael ei ailystyried yw a oedd y modd y cafodd hynny ei wneud yn rhy drahaus."
Dywed fod nifer o brosiectau buddsoddi yng Nghymru, gan gynnwys gwaith dur Llanwern, o ganlyniad i Dryweryn.
Yng Ngorffennaf 1957 fe gafodd Mesur Tryweryn ei ail ddarlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin a chafodd ei basio o 166-117.
Ond ni wnaeth yr un Aelod Seneddol o Gymru gefnogi'r mesur, gyda 24 yn ei wrthwynebu a'r lleill naill ai'n ymatal neu'n cadw draw o'r Senedd.
Stad ddiymadferth
Mae cyflwynydd y rhaglen Wyn Thomas yn olrhain hanes adeiladu'r gronfa ac yn dweud bod Tryweryn wedi dod yn symbol o stad ddiymadferth Cymru, a bod rhai'n teimlo bod angen gweithredu i ddangos eu dicter.
Yn 1962 cafodd dau Gymro di-Gymraeg eu dirwyo am ddifrodi cyfarpar ar y safle ac yn 1963 aeth tri arall - Emyr Llewelyn Jones, Owain Williams a John Albert Jones gam ymhellach a gosod dyfais ffrwydrol ar drawsnewidydd trydan ar y safle adeiladu.
Cafodd Emyr Llewelyn Jones ac Owain Williams eu carcharu am 12 mis ac fe gafodd John Albert Jones ei roi ar gyfnod prawf o dair blynedd.
Bydd Tryweryn: 50 Years On ar BBC One Wales, nos Lun, 19 Hydref, am 22:35.