Yodel yn creu 450 o swyddi yng Nghymru
- Published
Mae cwmni dosbarthu parseli yn creu 450 o swyddi tymhorol yng Nghymru i ddelio â'r cyfnod prysur yn arwain at y Nadolig.
Cyhoeddodd cwmni Yodel ei fod yn chwilio am bobl i weithio'n rhan amser a llawn amser fel gyrwyr a dosbarthwyr, ac y bydd llawer o'r swyddi'n rhai "hyblyg".
Ychwanegodd y cwmni y gallai rhai o'r swyddi fod yn barhaol yn y pendraw.
Bydd y swyddi'n cael eu creu yn Llanelli yn Sir Gaerfyrddin, Nantgarw yn Rhondda Cynon Taf, Llandudno yn Sir Conwy a Wrecsam.