Galw am adolygiad annibynnol o ddyfodol S4C

  • Cyhoeddwyd
Guto Bebb

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb, wedi dweud bod angen adolygiad o ddyfodol S4C.

Ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru dywedodd y dylai'r adolygiad fod yn hollol annibynnol ar yr un o Siarter y BBC.

Brynhawn Mawrth galwodd am yr adolygiad yn ystod trafodaeth am blwraliaeth cyfryngau Cymru yn neuadd Westminster.

"Dwi'n credu yn reddfol ac yn angerddol fod 'na bwrpas i S4C," meddai wrth Radio Cymru "ond dwi'n credu hefyd ar ôl 33 o flynyddoedd ei bod hi'n iawn gofyn - mae'r sefyllfa sy'n wynebu darlledwyr wedi newid yn sylfaenol.

'Newid yn sylfaenol'

"Mae'r newidiadau yng nghyd-destun bodolaeth cymaint o newyddion a gwybodaeth ar y we wedi newid yn sylfaenol.

"Felly nid drwg o beth fyddai cael adolygiad cwbl annibynnol fyddai'n edrych ar be' ydi pwrpas a rheswm dros fodolaeth sianel benodol Gymraeg yn y ganrif hon a'n bod ni'n gwneud hynny mewn cyd-destun Cymreig yn annibynnol ar y broses o edrych ar Siarter y BBC."

Yn y prynhawn dywedodd Mr Bebb ei fod yn pryderu y byddai S4C yn cael ei hanghofio yn ystod y trafodaethau am adnewyddu siarter y BBC.

Amheuon

Fe gododd amheuon a oedd y cyfryngau Prydeinig yn cymryd gwleidyddiaeth Cymru o ddifri.

Yn 2010, meddai, pan oedd cyhoeddiad am lai o ariannu i S4C a'r BBC roedd addewid y byddai adolygiad annibynnol o ddyfodol S4C yr un pryd ag adolygiad o siarter y BBC.

Dywedodd y byddai hyn yn cael ei groesawu yng Nghymru.

"Mi fyddai'n fan cychwyn gofyn cwestiynau difrifol am yr hyn sy' ei angen o gyfryngau Cymru mewn cyd-destun Cymreig," meddai.