Rhybudd i siopwyr: Dwyn cardiau banc

  • Cyhoeddwyd
SiopwyrFfynhonnell y llun, Rex Features

Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynghori siopwyr mewn archfarchnadoedd i fod ar eu gwyliadwraeth, yn dilyn nifer o adroddiadau am droseddau'n ymwneud â dwyn cardiau banc.

Yn ôl yr heddlu, ers mis Mai 2015, maen nhw wedi derbyn adroddiadau fod troseddwyr yn dilyn siopwyr at fannau talu ac yn gwneud nodyn o rif PIN eu cardiau banc.

Yna, mae'r troseddwr yn trosglwyddo gwybodaeth am y cerdyn i unigolyn arall, cyn i rywun arall ddilyn y siopwr wrth iddo gerdded at y car a thynnu eu sylw mewn rhyw fodd neu'i gilydd.

Fel arfer, mae'n gwneud hyn drwy ofyn i'r siopwr am wybodaeth fel y ffordd i leoliad penodol, gan ofyn i'r person ddangos hynny ar fap.

Tra bo hynny'n digwydd, mae eu cardiau banc yn cael eu dwyn.

Bydd y troseddwyr yna'n tynnu arian o'u cyfri' neu'n prynu nwyddau arlein.

Cyngor yr heddlu i siopwyr yw i gadw'r rhif PIN yn ddiogel a chyfrinachol wrth dalu am unrhyw beth, ac i beidio a siarad â dieithriaid wrth gerdded i'r car.

Os ydych yn meddwl eich bod wedi gweld digwyddiad amheus fel hyn neu os ydych wedi dioddef trosedd debyg, cysylltwch â'r heddlu ar 101.