Angen peiriant newydd ar ganolfan ganser yn y gogledd
- Cyhoeddwyd

Mae 'na rybudd y gallai rhestrau aros am driniaeth radiotherapi i drin canser gynyddu os na chaiff offer newydd ei brynu ar gyfer canolfan arbenigol yn y gogledd.
Mae angen £1.7m i brynu peiriant newydd yn lle hen un yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd.
Cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wybod fod amseroedd aros am driniaeth radiotherapi yn "bryder difrifol".
Mae'r Bwrdd yn cyfarfod ddydd Mawrth i drafod y mater.
Mae swyddogion o'r bwrdd iechyd, gafodd ei roi dan fesurau arbennig gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin, wedi cael gwybod bod nifer o elusennau wedi cytuno i ddarparu'r arian sydd ei angen er mwyn prynu peiriant.
Byddai'r offer yn galluogi'r ganolfan i ddefnyddio pedwar peiriant o'r un math, gan ddiwallu 90% o anghenion triniaeth radiotherapi cleifion yn y gogledd.
'Her sylweddol'
Serch hynny, byddai angen i'r bwrdd hefyd ddod o hyd i £250,000 yn ychwanegol bobl blwyddyn, i dalu am staff ychwanegol.
Mewn adroddiad i aelodau o'r bwrdd iechyd mae Cyfarwyddwr Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru, Damian Heron, yn rhybuddio: "Yr her sylweddol yw ein gallu i ddarparu triniaeth radiotherapi nawr sy'n cyd-fynd a thargedau Prydain."
Ar hyn o bryd, 14 diwrnod yw'r targed i drin cleifion sydd angen triniaeth radical i ddelio a'u canser.
Mae'r ganolfan yn cwrdd â'r nod 60% o'r amser o'i gymharu â 100% yn Abertawe a 96.5% yn Felindre, Caerdydd.
Dywedodd Mr Heron mai'r "unig ddewis realistig i wella'r perfformiad" ym Modelwyddan fyddai cael peiriant newydd, a sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio i'w lawn botensial.
Prinder meddygon
Yn y cyfamser, mae aelodau'r bwrdd wedi bod yn trafod sut i ddelio â darpariaeth meddygon teulu yn ardal Prestatyn yn Sir Ddinbych wedi i ddwy feddygfa lle oedd 20,000 o gleifion gyhoeddi eu bod yn cau.
Clywodd y bwrdd fod yna broblemau wrth geisio denu meddygon newydd.
Fe fydd y meddygfeydd yn rhoi'r gorau i'r gwasanaeth presennol ar 31 Mawrth, 2016.
Mae swyddogion y bwrdd trafod wedi rhoi gwybod i staff y meddygfeydd y bydd gofal iechyd yn parhau i gael ei ddarparu ym Mhrestatyn.
Dywedodd Simon Dean, prif weithredwr dros dro'r bwrdd iechyd, ei bod yn bwysig cyfathrebu gyda'r boblogaeth leol.
Cytunodd y bwrdd i edrych am wahanol opsiynau cyn rhoi gwybod i'r cyhoedd cyn gynted â phosib ynglŷn ag unrhyw benderfyniad.