Llofruddiaeth: Lleihau dedfryd llysfab

  • Cyhoeddwyd
Anne Jackson

Mae llysfab bardd adnabyddus o Sir Fynwy wedi llwyddo yn ei apêl i gwtogi'r ddedfryd am ei llofruddio.

Ym mis Mawrth cafodd Timothy Jackson ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd, ar ôl pledio'n euog i ymosod ar Anne Jackson tra'n ymweld â hi a'i dad ar eu fferm ger Brynbuga yn Sir Fynwy ym mis Tachwedd 2014.

Clywodd y llys bryd hynny fod Jackson, sy'n 49 oed, wedi colli ei dymer yn llwyr ac ymosod ar ei lysfam, gan ei thrywanu bum gwaith gyda chyllell cegin a sathru ar ei phen.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Timothy Jackson wedi llwyddo yn ei apêl i leihau ei ddedfryd

Penderfynodd tri barnwr yn y Llys Apêl yn Llundain leihau'r cyfnod hiraf y bydd Jackson dan glo - cyn y caiff wneud cais am barôl - o 19 mlynedd i 16 blynedd ac wyth mis.

Roedd Mrs Jackson, oedd yn ysgrifennu dan yr enw Anne Cluysenaar, wedi bod yn briod â thad Jackson ers 39 mlynedd.