Betsi Cadwaladr: Disgwyl bod gorwariant yn dyblu i £30m
- Cyhoeddwyd

Mae bwrdd iechyd mwyaf Cymru yn rhybuddio bod amcangyfri y bydd gorwariant eleni yn £30m.
Ym mis Mawrth fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd mewn mesurau arbennig, eu bod yn disgwyl gorwario o tua £14m.
Ond bum mis i mewn i'r flwyddyn ariannol mae'r corff wedi gwario £12.8m yn fwy na'r disgwyl.
Yng nghyfarfod y bwrdd yn Nhrawsfynydd dywedodd y Cyfarwyddwr Cyllid Gweithredol y byddai delio â'r yn "her".
Ond dywedodd Russell Favager ei fod yn "weddol optimistaidd" am ddyfodol y bwrdd iechyd a phwysleisiodd bod "llawer o aneffeithlonrwydd yn y sefydliad".
'Pwysau'
Yn ôl adroddiad, mae'r bwrdd wedi profi "pwysau ariannol arwyddocaol o fewn y flwyddyn," gan gynnwys recriwtio staff meddygol asiantaethau i lenwi swyddi gwag.
Dywedodd Mr Favager bod byrddau iechyd eraill Cymru am wynebu gorwario tebyg. Ychwanegodd hefyd bod 75% o ymddiriedolaethau Lloegr am wario mwy na'r disgwyl.
Nod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, meddai, fyddai ceisio targedu meysydd er mwyn rheoli gwario ac arbed arian. Y gobaith fyddai gwneud argymhellion erbyn mis Tachwedd.
Dywedodd y Prif Weithredwr Dros Dro, Simon Dean, fod angen gweithredu fel na fyddai effaith ar ofal cleifion na safon y gofal.
Mae hynny am fod yn "her arwyddocaol," meddai, un "fyddai'n rhaid i ni fynd i'r afael â hi o fewn y pum mis nesa".