Mesur Cymru: 'Ras i'r gwaelod' medd Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru yn honni bod anghytuno rhwng Llywodraeth Llafur Cymru a Llywodraeth Geidwadol y DU dros y cam nesaf yn y broses o ddatganoli yn "ras i'r gwaelod".
Dywedodd Simon Thomas AC ei fod yn disgwyl i Fesur Cymru, fydd yn cael ei gyhoeddi'r wythnos nesaf, fod yn "wan".
Ychwanegodd y byddai'n fethiant i'r ddwy lywodraeth os na fydd y mesur yn rhoi pwerau sylweddol i'r Cynulliad.
Mae Llywodraeth Cymru am i'r mesur greu awdurdod cyfreithiol ar wahân i Gymru, ond nid yw Llywodraeth y DU yn gweld angen hynny.
Trafodaethau 'cynhyrchiol'
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi awgrymu y byddai diffyg awdurdod cyfreithiol yn lleihau pwerau'r Cynulliad.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, bod Llywodraeth y DU yn bwriadu cyhoeddi'r mesur yr wythnos nesaf, a hynny ar ôl i Mr Jones alw am ohirio'r broses.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn trafodaethau "pwrpasol a chynhyrchiol" rhwng Mr Crabb a Mr Jones ddydd Llun.
Dywedodd Simon Thomas nad oedd yn cytuno gyda Mr Jones, ond bod awdurdod cyfreithiol yn "symbol o'r math o bwerau yr ydyn ni eu hangen".
Dywedodd: "Mae'r hyn ddechreuodd fel proses trawsbleidiol wedi troi yn ras i'r gwaelod rhwng y blaid Lafur yma yng Nghymru a'r Ceidwadwyr yn San Steffan.
"O amgylch Whitehall mae adrannau yn ceisio cymryd pwerau yn ôl o dan y model cadw pwerau.
"Rydyn ni'n disgwyl gweld mesur gwan iawn fydd, heb os, yn dechrau trafodaethau gan rai am fesur arall bron yn syth."