Dechrau helpu ffoaduriaid wedi apêl i gasglu nwyddau

  • Cyhoeddwyd
NwyddauFfynhonnell y llun, NWRS
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Nick Jewitt bod yr ymateb wedi bod yn 'anhygoel'

Bydd nwyddau gafodd eu casglu gan bobl yng ngogledd Cymru yn cael eu cludo i ynys Roegaidd yr wythnos hon, i helpu ffoaduriaid yno.

Mae ynys Leros, sydd â phoblogaeth o 8,000, wedi cael trafferth delio gyda'r holl ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd ar ôl dianc ar draws Mor y Canoldir.

Cafodd grwpiau eu sefydlu ar draws gogledd Cymru i gasglu rhoddion ac arian er mwyn eu cludo i'r gwersylloedd yn Calais.

Erbyn hyn, mae ymateb y cyhoedd wedi bod yn llawer mwy na'r disgwyl, ac mae 10 crat yn cael eu cludo i Roeg.

'Ymateb anhygoel'

Sylfaenydd un o'r grwpiau cyntaf yn ardal Bangor oedd Nick Jewitt, a dywedodd nad oedden nhw wedi disgwyl y fath ymateb.

"Pan ddechreuon ni roeddan ni'n gobeithio casglu digon o roddion i lenwi un neu ddau o geir a mynd â nhw i Calais. Ond mae ymateb y cyhoedd wedi bod yn anhygoel.

"O fewn cyfnod byr roedd rhwydweithiau wedi dechrau ar draws gogledd Cymru, gyda miloedd o aelodau. Yn fuan iawn roedd 25 o fannau casglu a 4 o storfeydd mawr yng Ngwynedd yn unig, a mwy ar Ynys Mon, yng Nghonwy, Wrecsam, Sir y Fflint ac ymhellach."

Ffynhonnell y llun, NWRS
Disgrifiad o’r llun,
Bydd 10 crat yn llawn nwyddau yn cael eu gyrru i Leros
Ffynhonnell y llun, NWRS
Disgrifiad o’r llun,
Ifan Roberts, Michelle Jones a Caron Dukes yn sortio'r rhoddion yn un o'r storfeydd

Fe glywodd Cymru Fyw brofiad Catrin Wager yn ddiweddar, fu'n cludo nwyddau i helpu pobl yn Calais. Mae'r grwp hefyd wedi cludo nwyddau i Groatia a Groeg yn y gorffennol.

Bydd hi'n mynd i Leros, sydd llai na 10 milltir oddi wrth arfordir Twrci, i gwrdd â'r nwyddau a gwneud gwaith gwirfoddol yno hefyd.

'Arbennig iawn'

Dywedodd: "Mae hi wedi bod yn anhygoel sut mae pobl wedi dod at ei gilydd drwy gefnogi'r ymgyrch yma.

"Mae pobl o grefyddau gwahanol yn gweithio gyda phobl nad ydyn nhw'n grefyddol o gwbl.

"O ysgolion i grwpiau cymunedol a hyd yn oed corau, mae'r rhoddion wedi dod gan bobl sydd eisiau helpu pobl eraill. Mae'n arbennig iawn."

Mae'r grwp wedi gorfod talu i gludo'r cratiau nwyddau ar draws y byd, ac maen nhw'n apelio am noddwyr i helpu.