Gangster: Ochr arall y geiniog
- Cyhoeddwyd

Mi gafodd rhaglen am fywyd Jason, 'Gangster Cymraeg' o Wynedd, ymateb rhyfeddol pan gafodd hi ei darlledu ar BBC Radio Cymru yn gynharach yn 2015. Cyn iddo dreulio cyfnod yn y carchar, roedd Jason yn ennill miloedd o bunnoedd bob wythnos oherwydd ei fod yn gwerthu cyffuriau yn anghyfreithlon.
Rwan, mae Aled Hughes, gohebydd y rhaglen wreiddiol, wedi mynd yn ôl at y stori er mwyn cael golwg ar effaith gweithgareddau'r gwerthwyr cyffuriau ar fywyd Cymro ifanc arall. Mae'n rhannu ei argraffiadau gyda Cymru Fyw:
Rhywbeth ar goll
Ar ôl darlledu'r rhaglen wreiddiol o 'Gangster Cymraeg' ar Radio Cymru, roeddan ni fel tîm cynhyrchu yn teimlo fod yna rywbeth ar goll. Doedd gwrando ar fywyd Jason, y dealer, yn gwerthu cocaine ac yn casglu hyd at £7,000 yr wythnos ddim yn ddigon. Roedd yn rhaid i ni feddwl am ffordd i ddangos ochr arall y geiniog.
Tra'r oedd Jason yng Ngwynedd yn gwerthu cyffuriau, yn gwario miloedd ar filoedd a'n gallu fforddio y petha' gora' - menthyg pres fel ag y gallai, fesul £5 gan ei fam os oedd o'n lwcus, yr oedd Ed Thomas.
"Loveable rogue oedd Ed," yn ôl ei fam o'i thŷ ar Ynys Môn. Dydi Rhiannon Bennett heb ddod i delerau gyda marwolaeth ei mab, bedair blynedd a hanner yn ôl.
"Mi ddoth y ffôn... yn dweud bod o 'di ffendio fo 'di marw ar lawr y kitchen - ac mi oedd y paramedics a'r police a'r rheina yna yn cau gadael i fi ei weld o - am bod o wedi decomposio de.
"Be' oeddan nhw'n ddeud oedd 'i fod o wedi cymeryd heroin, pob math o dabledi - o'dd o wedi decomposio gymaint roedd 'na waed yn dod o'i ll'gada a'i glustia'. Ma'n gollad mawr i ni..."
Chwalu bywydau
Yn y rhaglen mi fyddwn ni unwaith eto yn clywed stori Jason, ond y tro yma mi rydan ni wedi gweu ochr arall y byd cyffuriau i'w stori. Dydi Jason ddim yn adnabod Rhiannon. Dydi Rhiannon ddim yn adnabod Jason.
Yr unig beth sy'n eu cysylltu ydi'r byd cyffuriau anghyfreithlon. Yr un peth sydd wedi chwalu bywydau'r ddau ohonyn nhw.
Yng ngeiriau Rhiannon: "Mae 'na gymaint o betha' wedi digwydd. Plant, teulu, mama' - 'di ffendio'u plant nhw 'di marw o achos y cyffuriau - ond fedra neb egluro sud beth ydi o tan mae o wedi digwydd iddyn nhw. Es i lawr allt, es i ar anti-depressants, do'n i'n methu cysgu."
Ac mi ddaw'r eironi brwnt o'r ochr arall, gan Jason: "Dwi 'di byw y gangster life, luxury life, - 'wbath o ni isho o ni'n ga'l o ia - but - o'n i'n gorfod gneud i fyny am y peth yn carchar a dydi o ddim werth o ia - 'sa well gin i fod ar dôl a dim pres at all - na mynd i'r gêm yna eto - 'chos di o ddim werth o ia - coeliwch chi fi."
Fyddwn ni byth yn gwybod faint o broblem yn union ydi hi - ond yn y Gymru wledig a'r Gymru drefol - dwi'n hyderus iawn yn dweud bod cyffuriau yn parhau i ddifetha a chwalu bywydau.
Yr un peth sy'n gwbl glir ar ôl gweithio ar y stori yma ydi nad oes yna neb yn ennill ar naill ochr y gadwyn gyffuriau. Mae'r ddwy stori, am resymau cwbl wahanol, yn llawn tristwch a thor-calon.