Carcharu troseddwr rhyw am 14 blynedd
- Cyhoeddwyd

Dywedodd y barnwr ei fod yn 'droseddwr peryglus'
Mae gyrrwr fan wedi cael ei garcharu am 14 o flynyddoedd ar ôl cipio merch ysgol 14 oed a chael rhyw gyda hi.
Yn Llys y Goron Caerdydd roedd Paul Sleeman, 60 oed, yn euog o 11 o droseddau yn erbyn y ferch, gan gynnwys cipio a rhyw anghyfreithlon.
Roedd wedi gwadu'r cyhuddiadau.
Dywedodd y Barnwr David Wynn Morgan fod Sleeman yn "droseddwr peryglus."
Roedd y dyn o Ddinas Powys, Bro Morgannwg, wedi mynd â'r ferch a'i rhoi mewn fan oedd yn dosbarthu llythyrau a pharseli.
Clywodd y llys iddo feithrin perthynas gyda'r ferch drwy anfon negeseuon testun ar ei ffôn.
Yn ôl yr erlyniad, roedd wedi defnyddio anrhegion er mwyn ei denu.