Cau llysoedd: 'Gwastraff arian"
- Published
Mae aelod seneddol yn dweud fod llywodraeth San Steffan wedi gwario £1.7 miliwn ar foderneiddio llysoedd barn yng Nghaerfyrddin mae yna fwriad i'w cau.
Dywed Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr fod hyn yn wastraff llwyr o arian cyhoeddus, ac y dylid cadw'r canolfannau ar agor.
Gwnaed cais am ymateb i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Yn ôl Mr Edwards, AS Plaid Cymru, mae £1,359,513 wedi ei wario ar Lysoedd Caerfyrddin - adeilad Guildhall y dref - rhwng 2009 a 2014, tra bod £363,486 wedi ei wario ar Ganolfan Gwrandawiadau a Thribiwnlysoedd, hefyd yng Nghaerfyrddin.
Daeth y wybodaeth, meddai Mr Edwads, AC Plaid Cymru, mewn ymateb i gwestiwn seneddol.
Bwriad y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw cau'r ddau leoliad, a naw chanolfan arall yng Nghymru.
Daeth y cyfnod ymgynghori ynglyn â'r cynigion i ben ddydd Iau diwethaf.
Dywed Mr Edwards y dylid cadw'r canolfannau ar agor, a chyfeiriodd yn benodol at "statws hanesyddol Caerfyrddin fel canolfan gweinyddu cyfiawnder gorllewin Cymru".
'Gwastraff llwyr'
Dywedodd y byddai canoli'r gwasanaethau yn Llanelli yn creu trafferthion i bobl sy'n byw yng nghefn gwlad.
"Byddai'n wastraff llwyr o arian cyhoeddus gan fod £2 miliwn newydd ei wario ar adnewyddu'r adeiladau, " meddai.
"Mae'r peth yn gwneud ffars o rethreg y llywodraeth bresennol o fod yn bwyllog wrth wario arian cyhoeddus."
Yn ôl y Gweinidog Cyfiawnder Michael Gove mae angen cau'r llysoedd oherwydd "gormod o gapasiti".
Mae Llywodraeth y DU am gau cyfanswm o 91 o lysoedd a thribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr.
Y canolfanau neu lysoedd eriall sydd dan fygythaid yng Nghymru yw:
- Canolfan Gwrandawiadau a Thribiwnlysoedd Sir Gaerfyrddin
- Llysoedd Barn Aberhonddu
- Llysoedd Barn Caerfyrddin
- Llysoedd Barn Pen-y-bont ar Ogwr
- Llys Sifil a Theulu Castell-nedd Port Talbot
- Llys Sifil a Theulu Llangefni
- Llys y Goron ac Ynadon Dolgellau
- Llys Ynadon Caergybi
- Llys Ynadon Pontypridd
- Llys Ynadon Prestatyn
- Tribiwnlysoedd Wrecsam