Cyhoeddi argymhellion FSB Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae mesurau newydd, gan gynnwys creu corff trafnidiaeth a sefydliad sy'n gyfrifol am gefnogi cwmnïau bychain, ymysg argymhellion Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru.
Ar drothwy etholiad y Cynulliad mae'r ffederasiwn am i bleidiau gefnogi syniad Trafnidiaeth i Gymru fyddai'n golygu un sefydliad yn gyfrifol am ffyrdd, rheilffyrdd, bysys a beicio.
Yn ogystal mae'r mudiad o blaid corff fyddai'n benthyca arian i gwmnïau, cynnig cymorth a delio gyda chytundebau cyhoeddus.
Byddai gan gynghorau gyfrifoldeb cyfreithiol i hybu datblygiad economaidd, gyda chyllidebau a staff yn cael eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru iddyn nhw.
Mae'r ffederasiwn hefyd eisiau gweddnewid cyfraddau busnes a gwella'r broses reoleiddio.
Creu swyddi
Dywedodd llefarydd y byddai'r mesurau hyn yn helpu busnesau bach i dyfu a chreu rhagor o swyddi.
Mae'r "maniffesto busnes" wedi ei ysgrifennu ar sail ymchwil academyddion.
Mae'r gost wedi ei hasesu a gallai'r cynllun gael ei weithredu o fewn y cyllidebau presennol, yn ôl y mudiad.
Byddai'r corff sy'n goruchwylio busnesau yn gyfrifol am Cyllid Cymru/Banc Datblygu, Busnes Cymru a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
Byddai Trafnidiaeth i Gymru yn debyg i fodel Transport for London, ac yn cynnwys tocynnau sy'n gymwys ar bob gwasanaeth.