Adroddiad: 'Dim digon o gymorth' i famau a phlant
- Cyhoeddwyd

Mae'n bosib nad yw 10% o blant yng Nghymru yn cael y gefnogaeth angenrheidiol er mwyn cael dechrau da mewn bywyd.
Dyna rybudd prif swyddog meddygol Llywodraeth Cymru sy'n dweud fod perygl nad yw rhai mamau a phlant yn cael digon o gymorth gan y Gwasanaeth Iechyd a chyrff eraill yn ystod y blynyddoedd cynnar.
Yn ei hadroddiad blynyddol mae Dr Ruth Hussey yn galw ar fyrddau iechyd i wella'r sefyllfa drwy lunio cynlluniau ar gyfer 1,000 diwrnod cyntaf bywyd.
Yn ystod y cyfnod hwnnw mae ymennydd babi yn datblygu'n gyflym. Os yw'r plentyn yn cael loes neu ofid corfforol neu emosiynol yn ystod y cyfnod, fe allai'r effaith ar ei iechyd a'i ddatblygiad fod yn sylweddol.
Ond yn ôl Dr Hussey, mae'n bosibl nad yw hyd at un o bob 10 o deuluoedd yn derbyn y gefnogaeth angenrheidiol yn ystod y blynyddoedd cynnar allweddol.
Mae Gohebydd Iechyd BBC Cymru, Owain Clarke, wedi bod draw i Ganolfan Blant Integredig sy'n gwasanaethu ardal Trelái a Chaerau yng Nghaerdydd.
Mae'r ganolfan yn cynnwys methrinfeydd Cymraeg a Saesneg, canolfan sy'n gofalu am blant gydol y dydd yn ogystal â gwasanaethau cymunedol a iechyd.
Adroddiad Owain Clarke
Cefnogaeth a goruchwyliaeth
Fe ddylai cynlluniau 1,000 diwrnod y byrddau iechyd, yn ôl Dr Hussey, sicrhau fod bydwragedd yn cael digon o amser i gynghori ac ymateb i anghenion mamau beichiog.
Yn ogystal fe ddylen nhw sicrhau fod pob plentyn yn cael digon o gefnogaeth a goruchwyliaeth tra'n tyfu a datblygu.
Mae hi wedi rhybuddio fod canran y plant sy'n dechrau'r ysgol dros eu pwysau yn uwch o lawer yng Nghymru nag yn Lloegr a bod cyfradd y plant sy'n marw oherwydd anafiadau yn uwch yma nag unrhyw wlad arall ym Mhrydain.
Ond mae'r sefyllfa o ran plant hŷn, meddai, "yn fwy calonogol" ac mae'r adroddiad wedi nodi fod cyfraddau smygu ac yfed ymhlith plant yn eu harddegau wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynydddoedd diweddar.
Pryder am iechyd meddwl
Mae 'na bryder am y cynnydd diweddar mewn anhwylderau iechyd meddwl yng Nghymru - gyda nifer y marwolaethau o ganlyniad i hunanladdiad yn cynyddu.
Yn ôl Dr Hussey, fe allai'r wasgfa economaidd fod yn rhannol gyfrifol am hynny.