AC gafodd y sac: 'Diwylliant afiach'
- Cyhoeddwyd

Mae Aelod Cynulliad Llafur, feirniadodd wariant y llywodraeth ar ffordd liniaru'r M4, wedi ei diswyddo fel cadeirydd pwyllgor gan y Prif Weinidog.
Dywedodd AC Canol Caerdydd, Jenny Rathbone, bod "diwylliant afiach" yn atal ACau rhag dweud eu barn yn gyhoeddus.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.
Yr wythnos diwethaf dywedodd Ms Rathbone fod y ffaith bod y llywodraeth yn gwario bron i £20m i baratoi am y cynllun ger Casnewydd yn ei dychryn.
Ddydd Mawrth dywedodd bod Carwyn Jones wedi ei diswyddo fel cadeirydd y pwyllgor sy'n goruchwylio sut y mae arian Ewropeaidd yn cael ei wario yng Nghymru.
'Ddim yn ffordd dda'
Mewn datganiad dywedodd Ms Rathbone: "Mae digwyddiadau'r 24 awr diwethaf wedi cadarnhau yn fy meddwl i fod diwylliant afiach ar frig Llywodraeth Cymru sydd ddim yn caniatáu trafod llawn ac ystyriaeth am ddefnydd gorau arian cyhoeddus.
"Nid yw meddwl annibynnol yn cael ei oddef ac, os yw unrhyw un yn camymddwyn, yna mae'n cael ei drin yn ddidrugaredd. Nid yw hon yn ffordd dda o wneud penderfyniadau anodd."
Ychwanegodd fod y rhan fwyaf o ACau Llafur yn rhannu ei safbwynt.
Er ei bod yn derbyn hawl y Prif Weinidog i ddewis cadeirydd y pwyllgor, dywedodd ei bod yn siomedig ei bod wedi ei diswyddo am fynegi barn am fater nad oedd yn gysylltiedig â'r swydd.
Straeon perthnasol
- 8 Hydref 2015