Ymchwiliad i lygredd heddlu: 'Anwybyddu tystiolaeth'

  • Cyhoeddwyd
Lynette White
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Lynette White ei llofruddio yn 1988

Mae'r Uchel Lys wedi clywed bod ymchwiliad i lygredd yr heddlu yn sgil llofruddiaeth putain wedi anwybyddu "tystiolaeth" nad oedd yn gyson â damcaniaethau rhagdybiedig.

Mae wyth cyn-blismon wedi dwyn achos yn erbyn Heddlu De Cymru oherwydd camwaith mewn swydd gyhoeddus a charcharu ar gam.

Yr wyth yw Graham Mouncher, Thomas Page, Richard Powell, John Seaford, Michael Daniels, Peter Greenwood, Paul Jennings a Paul Stephen.

Clywodd y gwrandawiad yng Nghaerdydd nad oedd "bwriad o gwbl" i ddod o hyd i'r gwir wedi i Dri Caerdydd gael eu carcharu ar gam.

'Ddim yn bresennol'

Dywedodd Leslie Thomas QC fod modd wfftio honiadau bod Mr Page wedi pwyso ar dyst i roi datganiad ffug.

Clywodd y llys fod plismyn, oedd yn ymchwilio i lygredd yr heddlu, o dan yr argraff fod Mr Page wedi pwyso ar dyst adeg cyfweliad.

"Y ffaith amdani yw nad oedd yn bresennol," meddai.

Yn 2011 fe aeth yr wyth cyn-blismon, oedd yn rhan o'r ymchwiliad gwreiddiol i lofruddiaeth Lynette White, o flaen llys oherwydd eu hymddygiad yn 1988 arweiniodd at arestio, euogfarnu a dedfrydu ar gam Tri Caerdydd, Tony Parris, Stephen Miller a Yusef Abdullahi.

Dileu

Cafodd yr euogfarnau eu dileu gan y Llys Apêl yn 1992 wedi i'r erlyniad dderbyn eu bod yn "anniogel ac anfoddhaol".

Ar ddiwedd y gwrandawiad apêl dywedodd yr Arglwydd Ustus Taylor ei fod "wedi arswydo" gan ymddygiad yr heddlu yn yr achos.

Roedd achos o lygredd yn 2011 ond dymchwel wnaeth yr achos hwnnw ac mae'r cyn-blismyn wedi dwyn achos sifil yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd.

Mae'r achos yn parhau.