Marwolaethau dyn a menyw oedrannus 'heb esboniad'
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi dweud bod marwolaethau dau yn Rhondda Cynon Taf "heb esboniad".
Cafodd plismyn eu galw i dŷ yn Heol Ynyswen, Treorci, am 11:10 fore Mawrth.
Roedd dyn a menyw 77 oed wedi marw yno.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis: "Dydyn ni ddim wedi cadarnhau achosion eu marwolaethau ac yn dal i ymchwilio."