Cymru: Tri newid i wynebu De Affrica
- Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi gwneud tri newid i'r tîm gollodd yn erbyn Awstralia ar gyfer eu gêm yn erbyn De Affrica yng Nghwpan Rygbi'r Byd.
Bydd Tyler Morgan yn dechrau yn y canol gyda Jamie Roberts, wrth i George North symud yn ôl i'r asgell.
Mae Gethin Jenkins yn ôl yn y rheng flaen yn lle Paul James, sydd ar y fainc, a bydd Dan Lydiate yn dechrau yn lle Justin Tipuric fel blaenasgellwr.
Fe gafodd Morgan, fydd yn ennill ei drydydd cap dros Gymru ddydd Sadwrn, ei ffafrio dros James Hook, sy'n cadw ei le ar y fainc.
Canfed cap
Bydd Alun Wyn Jones yn chwarae yn ei ganfed gêm ryngwladol yn Twickenham ddydd Sadwrn - 94 i Gymru a chwech i'r Llewod.
Mae Bradley Davies wedi gwella o anaf i'w drwyn i fod ar y fainc, gyda Jake Ball, Aaron Jarvis a Ross Moriarty wedi eu gadael allan o'r garfan o 23 ar gyfer y gêm.
Cymru oedd yn fuddugol y tro diwethaf i'r ddwy wlad gyfarfod yn ôl ym mis Tachwedd 2014 yn Stadiwm y Mileniwm - dim ond eu hail fuddugoliaeth erioed yn erbyn De Affrica.
Ond De Affrica fu'n fuddugol yr unig dro iddyn nhw gyfarfod yng Nghwpan Rygbi'r Byd, wrth iddyn nhw drechu'r Cymry o 17-16 yn eu grŵp yn 2011.
Pietersen yn ôl
Fe gyhoeddodd De Affrica eu 15 i wynebu Cymru ddydd Mercher, gydag un newid o'r tîm drechodd yr Unol Daleithiau o 64-0.
Does dim lle i Lwazi Mvovo wrth i JP Pietersen ddychwelyd i'r tîm, a bydd Bryan Habana yn symud yn ôl i'w safle arferol ar yr asgell chwith.
Un hwb i Gymru yw na fyddan nhw'n wynebu Victor Matfield, gyda'r chwaraewr ail-reng profiadol heb wella o anaf mewn pryd.
Cymru: Gareth Anscombe; Alex Cuthbert, Tyler Morgan, Jamie Roberts, George North; Dan Biggar, Gareth Davies; Gethin Jenkins, Scott Baldwin, Samson Lee, Luke Charteris, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (capten), Taulupe Faletau.
Eilyddion: Ken Owens, Paul James, Tomas Francis, Bradley Davies, Justin Tipuric, Lloyd Williams, Rhys Priestland, James Hook.
De Affrica: Willie le Roux; JP Pietersen, Jesse Kriel, Damien de Allende, Bryan Habana; Handre Pollard, Fourie du Preez (capten); Tendai Mtawarira, Bismarck du Plessis, Frans Malherbe, Lodewyk de Jager, Eben Etzebeth, Schalk Burger, Duane Vermeulen, Francois Louw.
Eilyddion: Adriaan Strauss, Trevor Nyakane, Jannie du Plessis, Pieter-Steph du Toit, Willem Alberts, Ruan Pienaar, Pat Lambie, Jan Serfontein.
Gallwch ddilyn y gêm yn fyw ar lif byw Cymru Fyw o 15:30 ddydd Sadwrn, ac am fwy o gyffro Cwpan Rygbi'r Byd ewch i'n is-hafan arbennig.