Tri o bobl wedi'u harestio yn dilyn tân yn Y Bala
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd y tri eu harestio wedi i ddrws gael ei roi ar dân ar Heol Y Berwyn
Mae tri o bobl wedi'u harestio ar amheuaeth o losgi bwriadol ar ôl tân mewn fflat yn Y Bala.
Fe gafodd dau ddyn a dynes eu harestio wedi i ddrws gael ei roi ar dân ar Heol Y Berwyn.
Fe gafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i'r digwyddiad am tua 23:00 nos Fawrth.
Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân wedi lansio ymchwiliad ar y cyd i'r digwyddiad.