Achos esgeuluso cleifion yn erbyn nyrsys yn dymchwel

  • Cyhoeddwyd
Clare Cahill (l) and Jade PughFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Clare Cahill a Jade Pugh yn gweithio yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont

Mae achos yn erbyn dwy nyrs, oedd wedi'u cyhuddo o esgeuluso cleifion bregus yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont, wedi cael ei ddirwyn i ben.

Daw hyn wedi iddi ddod i'r amlwg fod cofnodion cyfrifiadurol cleifion yn "annibynadwy".

Roedd y nyrsys, Clare Cahill, 42 oed, a Jade Pugh, 30 oed, wedi gwadu methu â chynnal profion ar gleifion a ffugio eu cofnodion meddygol.

Ar ddiwrnod cynta'r achos yn eu herbyn, dywedodd yr erlyniad na fydden nhw'n cyflwyno unrhyw dystiolaeth yn eu herbyn.

Daeth hynny wedi i'r barnwr yn yr achos ddweud na ellid cyflwyno data cyfrifiadurol i fesur lefelau siwgr - oedd yn rhan allweddol o achos yr erlyniad - i'r rheithgor.

Roedd y Barnwr Tom Crowther yn feirniadol o fethiant yr ysbyty i sicrhau bod system gyfrifiadurol ddibynadwy mewn lle, a'r "gost enfawr" o ddwyn yr achos yn erbyn y nyrsys.

Ychwanegodd y dylai nam technegol fod wedi cael ei ddatgelu yn llawer cynt yn y dydd.

Mae tair nyrs arall, fu'n gweithio ar yr un ward, wedi pledio'n euog i gyhuddiadau o esgeulustod bwriadol.