Rowndiau terfynol Euro 2016: Cymru yn y dosbarth isaf

  • Cyhoeddwyd
Wales celebrate at full-timeFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd Cymru yn wynebu grŵp anodd ar gyfer rowndiau terfynol Euro 2016 wedi iddi gael ei chadarnhau y bydden nhw yn un o'r timau dosbarth isaf pan fo'r enwau yn dod allan o'r het.

Bydd Gogledd Iwerddon, Albania, Gwlad yr Iâ a dau dîm arall o'r gemau ail gyfle hefyd ym Mhot 4, felly nid yw'n bosib iddyn nhw fod yn yr un grŵp a Chymru.

Mae Ffrainc, Sbaen, Yr Almaen, Portiwgal, Gwlad Belg a Lloegr yn y dosbarth uchaf, a bydd Cymru yn bendant yn wynebu un ohonynt.

Mae'r fformiwla sy'n cael ei ddefnyddio i ddosbarthu'r timau yn cynnwys eu record mewn cystadlaethau mawr yn y gorffennol.

Mae hyn wedi cyfri yn erbyn Cymru er eu safle o wythfed yn netholion Fifa - yn uwch na Lloegr a Ffrainc.

Ar restr FIFA mae Cymru hefyd yn uwch na phob un o'r timau ym Mhot 2 hyd yma, sef Yr Eidal, Rwsia, Y Swistir, Croatia ac Awstria.

Bydd chwe grŵp yn y rowndiau terfynol yn Ffrainc, gyda'r ddau dîm ar frig y grwpiau a'r pedwar tîm gorau sydd wedi gorffen yn drydydd yn symud ymlaen i rownd yr 16 olaf.

Fe fydd yn enwau'n cael eu tynnu o'r het ar 12 Rhagfyr pan fydd y gemau ailgyfle wedi'u cwbhlau.