Wrecsam 3-3 Guiseley
- Cyhoeddwyd
Fe sicrhaodd gôl hwyr gan Connor Jenning bwynt yn erbyn Guiseley ond mae Wrecsam bellach wedi chwarae chwe gêm heb ennill yn y Gynghrair Genedlaethol.
Aeth Guiseley ar y blaen diolch i ergyd isel Gavin Rothery at y postyn agosaf, cyn i Wrecsam adennill rheolaeth gyda dwy gôl gan Dominic Vose.
Daeth yr eilydd Liam Dickinson a'r ymwelwyr nôl yn gyfartal cyn i Adam Boyes sgorio'u trydedd.
Yna, yn hwyr yn y gêm, cafodd Rothery ei anfon o'r maes, a llwyddodd capten Wrecsam, Jennings i ddod a'r tim yn gyfartal a gwadu Guiseley o'r fuddugoliaeth.