Breuddwydio am Nadolig gwyn?
- Cyhoeddwyd

'Chydig wythnosau yn unig sydd tan y Nadolig ond a fydd Cymru yn wyn dros yr ŵyl eleni? Dyna ofynnodd Cymru Fyw i gyflwynydd tywydd BBC Cymru, Rhian Haf
Newid calendr a newid hinsawdd
Yn ôl hanes yr hinsawdd, mae eira'n fwy tebygol rhwng mis Ionawr a mis Mawrth nac ym mis Rhagfyr. Roedd Nadolig gwyn yn llawer mwy tebygol yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig cyn i'r calendr newid yn 1752.
Hefyd mae newid yn yr hinsawdd wedi codi'r tymheredd rhywfaint - a hynny wedi lleihau'r posibilrwydd o eira.
Mae'n rhaid iddi fod yn oer - rhwng y rhewbwynt a 2C, a bod gwlybaniaeth - mewn ffurf crisialau bychain - yn yr atmosffer. Pan mae'r crisialau yn taro'i gilydd mae nhw'n cyfuno yn y cymylau ac yn gwneud plu eira.
Os fydd digon o grisialau yn cyfuno, byddan nhw'n ddigon trwm i ddisgyn i'r ddaear.
Ond os fydd y tymheredd yn uwch na 2C, bydd y plu yn meirioli ac yn disgyn fel eirlaw yn hytrach nac eira, ac os fydd hi'n gynhesach fyth, byddan nhw'n disgyn fel glaw.
Beth yw Nadolig gwyn?
Mi fyddai rhywun yn meddwl mai Nadolig gwyn yw trwch o eira sy'n disgyn rhwng hanner nos a hanner dydd ddydd Nadolig. Ond y diffiniad mwy cyffredinol, yn enwedig i'r bwcis, yw un bluen eira fydd i'w gweld ar 25 Rhagfyr mewn un man arbennig.
Yn draddodiadol, adeilad y Swyddfa Dywydd yn Llundain oedd hwn, ond mae 'na ragor o leoliadau erbyn hyn i gynnwys Palas Buckingham, maes awyr Belfast, clwb pêl-droed Aberdeen, Castell Caeredin, set Coronation Street ym Manceinion a Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.
Pryd oedd y Nadolig gwyn diwetha'?
Nadolig 2010 oedd y Nadolig gwyn diwetha', ac yn anarferol iawn roedd eira'n disgyn ar 83% o'r gorsafoedd tywydd ym Mhrydain - y nifer uchaf ar gofnod - ac roedd eirlaw yn disgyn ar y gorsafoedd eraill.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn medru darogan eira pump i ddeg diwrnod o flaen llaw, ac rydyn ni'n gwybod fod un bluen eira wedi disgyn ar ddiwrnod y Nadolig 38 o weithiau yn y 52 o'r blynyddoedd diwetha'.
Ond o ran trwch o eira gwyn, fel y darlun ar y cerdyn Nadolig, mae'r rhain yn llawer mwy prin. Dim ond bedair gwaith yn y 51 o'r blynyddoedd diwetha' mae hi wedi bod yn wyn!
Ac eleni...?
Mae'r alarch gynta' wedi glanio yn Sir Gaerloyw ar ôl mudo dwy fil a hanner o filltiroedd o Ogledd Rwsia, a hynny wythnos yn gynt na'r elyrch laniodd yn 2010, ac mi gafon ni eira trwchus y gaeaf hwnnw.
Mae rhain yn credu fod hyn yn dynodi bod gaeaf hir o'n blaenau - mae'r elyrch yn mudo i ddianc rhag y gaeaf oer sydd yn eu dilyn.
Wrth gwrs tydi hyn ddim yn cadarnhau Nadolig gwyn - mae'n rhaid edrych ar y wyddoniaeth. Mae El Niño hefyd yn rhywbeth i'w ystyried, sef pan mae'r Môr Tawel yn cynhesu hanner gradd yn uwch na'r arfer. Gall hyn achosi tywydd garw a dinistriol o gwmpas y byd.
Felly, mae 'na nifer o ffactorau i'w hystyried, a byddwn ni ddim wir yn gwybod i sicrwydd tan y dydd ei hun, wrth gwrs. Ond well i chi ymarfer eich strategaeth brwydr peli eira, rhag ofn...