Y Gymraeg a'r blaned Mawrth
- Cyhoeddwyd

Un cam bach i asiantaeth ofod NASA ond cam mawr i'r Gymraeg. Mae'r iaith erbyn hyn yn rhan o brosiect swyddogol i rannu rhai o'r lluniau mwyaf trawiadol o'r blaned Mawrth sydd wedi eu tynnu erioed. Mae darnau o gerddi Cymraeg i gyd-fynd â nhw.
Gallwch weld y lluniau a darllen y farddoniaeth ar gyfrif Twitter y prosiect @HiRISEWelsh.
Prifysgol yn Arizona sy'n gweithredu'r camera 'HiRISE' (neu "camera y bobl") sef y camera mwyaf grymus i'w anfon i dynnu lluniau o blaned arall erioed. Mae'r camera ar un o loerennau NASA.
Mae'r camera yn anfon lluniau o ansawdd arbennig yn ôl o blaned Mawrth ac mae'r tîm sy'n gweithio ar y prosiect yn awyddus i rannu'r wybodaeth gyda chymaint o bobl â phosib ar draws y byd - gan gynnwys Cymry Cymraeg.
Ieithoedd yn llenwi gofod
Mae Ari Espinoza yn gweithio ar Brosiect 'Beautiful Mars' ym Mhrifysgol Arizona yn Tucson ac yn frwdfrydig dros rannu gwybodaeth am y blaned Mawrth mewn ieithoedd gwahanol:
"Nod y prosiect 'Beautiful Mars' yw i gyrraedd pobl sydd am ddysgu am y blaned Mawrth sydd prin yn deall Saesneg, gan gynnwys plant.
"Dechreuodd y prosiect yn 2010 gyda thair iaith. Fe brofodd yn boblogaidd felly fe ddechreuon ni ychwanegu ieithoedd eraill, ac erbyn hyn rydyn ni'n cael ein cynrychioli mewn 23 o ieithoedd, gan gynnwys Cymraeg. Dyma'r unig adnodd sydd gan NASA yn Gymraeg.
"Mae ein prosiect yn dod â gwyddoniaeth y planedau i bobl ar draws y byd yn eu hiaith nhw eu hunain. Cyfathrebu gyda phobl yw nod y prosiect."
Ymhlith yr ieithoedd sy'n cael eu cynrychioli mae Arabeg, Catalaneg, Gwyddeleg, Ffrangeg, Rwseg a Phwyleg.
"Roeddwn i'n gwybod am y Gymraeg cyn dechrau'r prosiect, er nad oes gen i gysylltiadau â'r wlad. Mae'r ymateb wedi bod yn ardderchog. Rydw i wedi prynu llyfr 'Complete Welsh' a geiriadur Cymraeg achos rydw i eisiau cysylltu gyda'n gwirfoddolwyr a dangos ein bod ni o ddifri am yr agwedd hon o'r prosiect.
"Hefyd mae'n ardderchog i drydar pethau'n Gymraeg o NASA. Rydyn ni'n hoffi sialensau newydd ac i ymestyn at gynulleidfaoedd mor eang â phosib."
Barddoniaeth Gymraeg yn Arizona
"Yn lwcus, mae yna ddetholiad bach, ond defnyddiol o lyfrau barddoniaeth Cymraeg yn ein llyfrgell, felly penderfynais edrych mewn cynifer o'r llyfrau â phosib i chwilio am linellau da. Edrychais hefyd ar-lein am fy mod i eisiau defnyddio barddoniaeth gan ferched yn ogystal. Rwy'n gwneud mwy o ymdrech gyda'r Gymraeg i wneud hyn yn ddyddiol, mae'n hala amser i chwilio trwy'r llyfrau.
"Mae'n rhan o nod y prosiect i gynnig mwy na theitl gyda llun achos mae gwyddoniaeth heb gelfyddyd neu ddiwylliant, jyst yn deitlau. Rydyn ni am ymestyn hyn a chydio yn y gynulleidfa mewn ffordd wahanol efallai na fydden nhw wedi meddwl amdano."
Cyfieithu
Un sy'n gwirfoddoli i gyfieithu'r teitlau i'r Gymraeg ydy Helen Mainwaring o Lanelli.
"Dwi'n aelod o gymdeithas cyfieithwyr Cymru a chysylltodd Ari o Arizona gyda'r gymdeithas. Mae dwy ohonon ni'n gwirfoddoli ar y prosiect. Maen nhw'n anfon y ddogfen ata i a Rachel a rydyn ni'n cyfieithu'r capsiynau a'u hanfon yn ôl.
"Doedden i ddim wedi clywed am y prosiect o'r blaen, ond rwy wedi rhyfeddu ar ôl gweld y delweddau," meddai Helen.
Gobaith Ari a'r tîm yw i ddod o hyd i fwy o wirfoddolwyr a chael mwy o gapsiynau wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg, yn ogystal â rhywun i leisio darnau sain i gyd-fynd â'r lluniau ar y wefan a chlipiau ar wefan YouTube.