Mwy o blant Cymru 'wrth eu bodd â chwaraeon'
- Cyhoeddwyd

Mae bron hanner plant Cymru'n cymryd rhan mewn chwaraeon o ryw fath o leiaf dair gwaith yr wythnos, medd gwaith ymchwil.
Dywedodd Chwaraeon Cymru fod 48% o blant yn chwarae camp yn gyson a bod hyn wedi cynyddu o 40% yn 2013.
Mae'r arolwg o 116,000 o blant ysgol yn awgrymu fod nifer y merched sy'n cadw'n heini wedi codi o 36% yn 2013 i 44% yn 2015 tra bod nifer y bechgyn wedi cynyddu o 44% i 52%.
Roedd 40% o ddisgyblion ag anableddau'n cymryd rhan mewn chwaraeon tra oedd 31% yn 2013.
'Sêr y dyfodol'
Yn ôl Sarah Powell, Prif Swyddog Gweithredol Chwaraeon Cymru, mae cyflawni hyn wedi bod yn gamp aruthrol.
"Ein disgyblion heddi yw sêr y dyfodol, pobl fel Gareth Bale, Sam Warburton, Non Stanford a Jade Jones.
"Nhw hefyd yw ein darpar athrawon, meddygon, nyrsys, pobl busnes, a gweinidogion."
Mae'r ffigyrau hefyd yn awgrymu fod mwy o siaradwyr Cymraeg (53%) na siaradwyr di- Gymraeg (42%) yn debygol o chwarae camp.