Marks ddim yn edifar wrth frwydro canser

  • Cyhoeddwyd
Howard Marks

Ar un adeg, Howard Marks oedd un o fawrion y diwydiant smyglo canabis. Treuliodd flynyddoedd yn y carchar yn America, ond erbyn hyn, fflat fach yn Leeds yw cartre'r awdur a'r ymgyrchydd.

Pan es i yna i'w gyfweld, roedd y gwres bron yn annioddefol.

Esboniodd Marks fod y thermostat wedi'i osod yn uchel i ddelio â'r oerni roedd e'n deimlo fel sgîl-effaith i'r driniaeth am ei ganser.

"Mae'n glefyd nad oes modd ei wella. Yn amlwg, gall gwyrth feddygol ddigwydd ar unrhyw adeg, felly fe fydda i'n croesi bysedd am un o'r rheiny.

"Rwy'n goddef cyffuriau cemotherapiwtig yn dda iawn, ac mae'r tiwmorau yn gostwng yn eu maint. Ond does dim siawns y byddan nhw'n diflannu'n gyfangwbl."

Rhoi'r gorau i ganabis

Gyda gwên nodweddiadol a'i acen ddofn Gymreig, dwedodd Marks i'w feddygon ei ganiatáu i barhau i ysmygu. Ond mae'n ymddangos ei fod wedi rhoi'r gorau i ganabis.

"Cymerais gwerth wyth wythnos o olew canabis, y cryfaf posibl, mewn un "hit". Nes i hefyd fwyta hadau bricyll a gwyfynod, a'r holl bethau crac-pot gwrth-ganser y gallwch eu cymryd.

"Roeddwn i jyst wedi cymryd pob dim ac fe ges i'n rhoi mewn ysbyty seiciatrig am bythefnos."

'Marco Polo'r diwydiant cyffuriau'

Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, roedd heddlu'r byd yn chwilio am Howard Marks. Fe oedd un o smyglwyr canabis mwyaf blaenllaw'r blaned, y dyn a oedd yn cael ei alw'n Marco Polo'r diwydiant cyffuriau gan y rhai a oedd yn ceisio ei ddal.

Yn y pen draw, fe gafodd ei estraddodi o Sbaen i America i sefyll ei brawf. Cafodd ei garcharu yn 1990 am 25 mlynedd, ond cafodd ei ryddhau yn 1995 ar sail ei ymddygiad da.

Disgrifiad,

Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau BBC Cymru Huw Thomas aeth i holi Howard Marks

Aeth ati i ysgrifennu'r llyfr poblogaidd, Mr Nice, a oedd yn olrhain hanes ei fywyd fel smyglwr a'i amser yn y carchar. Ac fe ddaeth yn ymgyrchydd brwd dros gyfreithloni canabis a chyffuriau eraill - achos y mae'n dal i'w gefnogi hyd heddiw.

"Fe fyddai bron i bob cyffur yn fwy diogel i gymdeithas petai modd eu cyfreithloni a'u rheoli, yn hytrach na'u gadael i droseddwyr eu rheoli. Ond dyna, mae'n ymddangos, yw dewis y llywodraeth.

"Mae 'na "caveat" wrth gwrs: Os oes cyffur yn cael ei ddarganfod neu'n cael ei greu sy'n gwneud i chi fod eisiau lladd pobl neu eu treisio, yna mae'n rhaid ei wneud yn anghyfreithlon, yn amlwg.

"Dydw i ddim wedi cymryd pob cyffur yn y byd, ond rwyf wedi cymryd llawer, a dwi ddim wedi dod ar draws un sy'n gwneud i chi ymddwyn fel 'na. Ag eithrio - o bosibl - alcohol, sef yr unig un sy'n gyfreithlon. Felly dyw e ddim yn gwneud unrhyw synnwyr i mi."

Mr Smiley

Ar ôl i fi gwrdd â Marks, mae'n hawdd gweld sut y mae'n swyno ei ffordd drwy sefyllfaoedd anodd. Mae wedi trio gwneud enw da fel smyglwr cyffuriau egwyddorol, ac mae ei lyfr newydd, Mr Smiley, yn cynnwys yr un agwedd llawen tuag at fyd y byddai llawer o bobl eraill yn eu hystyried yn beryglus, yn niweidiol ac yn rhemp o droseddau.

Yn ei lyfr, ac yn ei gyfweliad gyda fi, mae'n cyfaddef ei fod wedi dychwelyd i'w hen ddiwydiant ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r carchar. Ond y cyffuriau oedd yn boblogaidd yn y 1990au oedd wedi dal ei sylw, yn hytrach na chanabis.

"Fe ddes i ar draws ecstasi yn bennaf wrth i fi drio ei brofi y tu allan i glybiau - o'n i'n gwisgo cot wen ac yn profi'r cyffur i wneud yn siŵr ei fod yn bur. Doeddwn i ddim yn ei smyglo ar yr adeg yna, ond mae gen i ofn i fi gael fy nhemtio i wneud arian ohono."

Mae Marks yn mynnu ei fod wedi methu a gwneud unrhyw arian o'i gais newydd i smyglo, ar ôl sylweddoli ei fod wedi cael cyflenwad amhur o'r cyffur.

"Roedd gen i reswm cryf i gredu bod yr ecstasi oedd ar gael i mi wedi ei lygru, a dyna yw'r perygl gyda chyffuriau ar wahan i ganabis. Gallwch ddweud gyda chanabis, mae'n tyfu yn y ddaear. Ond gyda thabledi, does gennych chi ddim syniad beth sy' ynddyn nhw. "

Ddim yn difaru

Os yw'r rhai sy'n anghytuno â safiad Marks ar gyffuriau yn gobeithio ei fod bellach yn difaru, cael eu siomi wnân nhw.

Er ei fod yn cyfaddef ei fod wedi difaru'n achlysurol yn y gorffennol, mae'n dweud ei fod yn hapus â'i fywyd ac mae wedi dysgu byw gyda'i ganser.

O edrych ar ei sefyllfa yn Leeds, mae'r miliynau a enillodd yn y 1970au a'r 80au wedi diflannu. Prinder arian a phrinder amser sydd wedi arwain at ysgrifennu'r gyfrol ddiweddaraf o'i atgofion.

Nid yw pob un o adolygiadau ei lyfr newydd wedi bod yn galonogol, ond mae ei agwedd siriol yn caniatáu iddo ddelio a'r adborth negyddol.

"Mae un o'r adolygiadau ar Amazon yn dweud: 'Ydy, mae'r wybodaeth gyffredinol yn iawn, ond yna mae'n llithro i'w falu awyr arferol'," meddai wrth chwerthin. "Angharedig iawn!"