Ceidwadwyr ddim yn ddewis awtomatig
- Cyhoeddwyd
Mae dau aelod Ceidwadol o'r Cynulliad Cenedlaethol, Willam Graham a Mohammad Asghar wedi methu yn eu hymgyrch i fod yn ddewis awtomatig eu plaid fel ymgeiswyr ar y rhestr ranbarthol ar gyfer etholiadau'r cynulliad yn 2016.
Yn etholiadau 2011 fe enillodd y Ceidwadwyr dwy o'r pedair sedd ar restr ranbarthol Dwyrain De Cymru - sef Mr Graham a Mr Ashgar.
Ond nawr mae'n ymddangos y bydd yn rhaid i'r ddau gystadlu yn erbyn eraill i gael sefyll fel ymgeiswyr y Ceidwadwyr ar y rhestr.
Gwnaed y penderfyniad mewn cyfarfod o`r bwrdd rhanbarthol nos Fercher.