Dros 200 o swyddi yn y fantol yng Nghastell-nedd
- Published
Mae cwmni Crown yn bwriadu cau eu ffatri becynnu yng Nghastell-nedd gyda 245 o swyddi yn y fantol.
Dywedodd undeb Unite fod y rheolwyr wedi rhoi gwybod iddyn nhw y bore 'ma.
Yn ôl Crown, ni all werthu cymaint o gynnyrch oherwydd y farchnad a byddan nhw nawr yn cynnal cyfnod o ymgynghori.
Mewn datganiad dywedodd y cwmni: "Gallwn gadarnhau bod Crown Packaging wedi dechrau ymgynghoriad gyda chynrychiolwyr undebau oherwydd y bwriad i gau safle Castell-nedd.
"Rydyn ni'n deall y bydd yn gyfnod anodd i bawb sy'n gysylltiedig â'r ffatri ac yn cyfarfod gyda gweithwyr ar y safle i esbonio'r bwriad yn fanwl."
'Tristwch mawr'
Mae pencadlys y cwmni yn yr Unol Daleithiau.
Dywedodd Gareth Jones o Unite: "Mae'r undeb wedi ei hysbysu bod y cwmni yn ystyried cau eu safle yng Nghastell-nedd, gan golli 245 o swyddi."
Dywedodd yr AC Gwenda Thomas: "Mae hwn yn dristwch mawr ... mae'r ffatri wedi bod yn rhan o'r dre am bron 80 mlynedd ac wedi rhoi incwm i filoedd o deuluoedd dros y blynydde."
Mae wedi cysylltu â Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, meddai, ac wedi cael sicrwydd y bydd y llywodraeth yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu'r cwmni a'r gweithwyr yn ystod y cyfnod ymgynghori.
'Tasglu'
"Dwi wedi cael sicrwydd y bydd y prentisiaid yn gorffen eu hastudiaethau ac fe fyddwn i'n gwneud popeth posib i helpu pawb sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol oherwydd yr ergyd ysgytwol hon."
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Mae hyn yn siomedig iawn ac oherwydd llai o alw bydeang.
"Fe fyddwn yn ystyried ein cefnogaeth allai gynnwys, os oes angen, sefydlu tasglu i helpu'r gweithwyr."