A55: Beiciwr modur mewn cyflwr difrifol wedi damweiniau
- Cyhoeddwyd

Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod fore Iau
Mae beiciwr modur wedi cael anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad ar yr A55 ar Ynys Môn fore Iau.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod ei anafiadau yn rhai fydd yn newid ei fywyd.
Cafodd y dyn ei anafu yn y gwrthdrawiad cynta ychydig cyn 08:20 ar ochr ddwyreiniol y ffordd ger Y Fali.
Digwyddodd y ddamwain honno rhwng beic modur a char, ac fe gafodd y beiciwr modur ei gludo i Ysbyty Gwynedd.
Dywedodd yr heddlu fod ail ddamwain wedi digwydd rhwng dau gerbyd yn fuan wedyn.
Cafodd un person arall ei gludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau.
Cafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod ond mae'r ddwy lôn wedi ailagor erbyn hyn.
Mae'r heddlu wedi apelio am wybodaeth. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101.