Lansio strategaeth newydd gan Chwareon Cymru

  • Cyhoeddwyd
AthletauFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y strategaeth newydd yn canolbwyntio mwy ar ddoniau

Mae Chwaraeon Cymru wedi lansio strategaeth elît newydd er mwyn canfod talent gorau'r wlad.

Fe fydd mwy o ganolbwyntio ar ddoniau a bydd mentrau wedi eu targedu gyda'r nod o ddarparu llwyddiant tymor hir i'r genedl mewn chwaraeon.

Mae'r strategaeth newydd hefyd am osod targedau ar gyfer medalau yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd 2020 a 2024 ac i dîm Cymru yng Ngemau Gymanwlad 2018 a 2022.

Dyma ran ganolog o botensial y genedl ar lwyfan y byd, meddai'r corff.

Enillodd athletwyr Cymru saith medal Olympaidd a 15 medal Paralympaidd yn Llundain 2012.

Yn ôl Mari Davies, 18 oed, o Fethesda, hwylwraig sy'n aelod o garfan 'Podium Potential' tîm Hwylio Prydain, mae hyn yn "newyddion gwych".

Disgrifiad o’r llun,
Mari Davies (chwith) yn cystadlu

Gan frolio'r cymorth gafodd hi gan Chwaraeon Cymru, dywedodd: "Maen nhw wedi bod yn lot o help i mi drwy roi cyllid i Hwylio Cymru. Dw i wedi bod yn lwcus iawn.

"Mae pawb yn cael cefnogaeth ganddyn nhw beth bynnag ydi eu gallu nhw."

Fel rhan o garfan 'Podium Potential', fe fydd Ms Davies yn ymuno â'r garfan Olympaidd yn Weymouth wythnos nesaf ble bydd cyfle iddi yno ymarfer gyda'r tîm ac er ei bod "ychydig bach yn nerfus", dywedodd ei bod yn edrych ymlaen.