Cwest Hillsborough: Ceisio achub bywyd John McBrien
- Cyhoeddwyd

Mae cefnogwr Lerpwl a gollodd ymwybyddiaeth yn nhrychineb Hillsborough wedi dweud wrth y cwest am ei ymgais i achub bywyd dyn ifanc o Sir y Fflint.
Fe geisiodd Stuart Gray adfywio John McBrien, 18, o Dreffynnon a fu farw ystod y gêm.
Ond dywedodd Mr Gray wrth Lys y Crwner yn Warrington ei fod yn brwydo dros "achos anobeithiol".
Roedd Mr McBrien yn un o 96 o gefnogwyr fu farw yn gêm gyn derfynol Cwpan yr FA yn 1989 yn Sheffield.
Dywedodd Mr Gray, a oedd yn rheolwr cyffredinol yn awdurdod iechyd Kidderminster, bod ganddo ychydig o sgiliau cymorth cyntaf.
"Roeddwn yn ymwybodol o'r ffaith fy mod i mwy na thebyg yn brwydro dros achos anobeithiol," meddai wrth y cwest. "Ond y pwynt oedd ei fod yno a fy mod yn ceisio gwneud beth oeddwn i'n wybod oedd y peth gorau i wneud er mwyn ceisio ei gael i anadlu eto.
"Fe aeth ei wefusau yn las ac roedd ei lygaid yn stond. Roeddwn i wedi gweld yr arwydd hwnnw o'r blaen yn fy ngyrfa gyda'r gwasanaeth iechyd.
"Roeddwn yn gwybod ei fod mewn stad anobeithiol, ond roeddwn yn meddwl os byddwn i'n cael ychydig o aer yn ei ysgyfaint, ac os gallwn gael ei galon i guro eto, bod cyfle iddo oroesi."
Fe ddywedodd ei fod wedi parhau gan gywasgu ei frest a'i galon am "efallai pum munud".
Sylweddolodd Mr Gray nad oedd "unrhywbeth arall y gallwn wneud" ac fe symudodd ymlaen i geisio helpu rhai eraill.
Mae'r cwest yn parhau.